Staff a myfyrwyr yn dangos brwdfrydedd dros ymuno â chyrsiau iaith arwyddo
Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi dangos brwdfrydedd mawr dros ymuno â chyrsiau iaith arwyddo sy’n cael eu cynnig gan y Brifysgol.
Gwnaed y penderfyniad i gyflwyno nifer o gyrsiau Ymwybyddiaeth Byddardod a Chyflwyniad i Iaith Arwyddo Prydain (BSL) 10 wythnos o hyd i staff a myfyrwyr gan Ganolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol.
“Un ffordd o gael gwared ag unrhyw gamwahaniaethu a deimlir gan y 354,000 o bobl yr amcangyfrifir eu bod yn fyddar yn y DU yw sicrhau ein bod yn chwalu cymaint o rwystrau â phosib iddynt. Mae darparu hyfforddiant i’n staff a’n myfyrwyr yn un cyfraniad bach y gallwn ei wneud i’r perwyl hwnnw,” meddai Delyth Murphy, pennaeth Canolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol.
“Roeddem yn meddwl mesur lefel y diddordeb o fewn y Brifysgol - ond nid oeddem wedi disgwyl llenwi’r cyrsiau o fewn llai nag awr o yrru gwahoddiadau e-bost at ein staff a myfyrwyr!”
Daeth yr ail gwrs 10 wythnos i fyfyrwyr i ben yn ddiweddar, gyda’r cyrsiau nesaf i staff a myfyrwyr wedi eu trefnu ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd fis Medi.
Cynhelir y cyrsiau gyda chymorth Coleg Llandrillo Menai, lle mae Adran Astudiaethau Byddardod wedi bod yn flaenllaw yn darparu cyrsiau iaith Arwyddo Prydain yn lleol. Mae’r cyrsiau yn arfogi staff â sgil gwerthfawr a myfyrwyr â sgil ychwanegol, gyda nifer ohonynt eisiau mynd ymlaen at yrfa mewn addysg neu ofal, lle bydd y sgil yn un gwerthfawr.
Un o’r myfyrwyr a fynychodd y cwrs oedd Amy Crowther o Corbridge, Northumberland. Mae Amy yn astudio Astudiaethau Plentyndod yn ei hail flwyddyn. Meddai: “ Rwy’n gobeithio mynd i faes therapi lleferydd ac iaith wedi i mi raddio a dyna un rheswm pam y penderfynais ddilyn y cwrs BSL, gan y bydd yn sgil allweddol ar gyfer y llwybr gyrfa hwnnw. Rwyf wir wedi mwynhau’r cwrs 10 wythnos ac yn gobeithio cwblhau lefel un y flwyddyn nesaf pan fyddaf yn dychwelyd i’r brifysgol.”
Gwnaeth Harriet Moran, myfyrwraig trydedd flwyddyn sy’n astudio Gwyddorau Biofeddygol hefyd ymuno â’r cwrs.
Dywedodd: “Rwyf wedi bod yn awyddus i ddysgu sut i arwyddo ers rhyw chwech neu saith mlynedd, gan ei fod yn iaith ddefnyddiol i’w gael er mwyn hwyluso amgylchedd mwy cynhwysol a dyna pam ymunais a’r cwrs. Rwyf wedi bod wrth fy modd â’r cwrs ac wedi mwynhau mynd i’r gwersi pob wythnos. Rwy’n credu bod dilyn y cwrs wedi bod yn fodd i mi gyrraedd gwell dealltwriaeth o sut y defnyddir BSL fel iaith, ac mae wedi rhoi hyder i mi ddefnyddio iaith arwyddo. Rwyf wedi bod yn dysgu gyda ffrindiau, ac mae wedi fy ngwneud yn fwy brwdfrydig i barhau at lefel uwch.”
Daw Karla Pelling o Newcastle ac mae yn ei hail flwyddyn yn astudio Seicoleg gyda Datblygiad Plant ac Iaith (BSc).
Meddai Karla: “Penderfynais ddysgu BSL gan fy mod yn arweinydd Brownis ac felly eisiau medru sicrhau bod unrhyw blentyn sydd eisiau ymuno â’m huned yn gallu gwneud hynny.
Yn y dyfodol rwy’n gobeithio bod yn athrawes ysgol gynradd. Rwyf yn gwirfoddoli mewn ysgol gartref lle mae un plentyn yn fyddar, ac felly mae’r sgil eisoes wedi bod o gymorth.
Mwynheais y cwrs a dysgu llawer mewn ychydig amser, gan fod Alan yn athro da ac yn amyneddgar pan nad oeddem yn cael pethau’n gywir y tro cyntaf. Rwy’n gobeithio y bydd y cwrs o fudd - ac yn gobeithio bod yn rhugl rhyw ddiwrnod.”
Mae Karla’n argymell i unrhyw un a gaiff y cyfle i ddysgu BSL a chymryd mantais o’r cyfle.
Ychwanega: “Mae’n beth da iawn i ddysgu ac yn agoriad llygad i fywyd rhywun arall. Nid ydych byth yn gwybod pa bryd y gallech fod ei angen, felly mae’n sgil da i’w gael yn eich arfogaeth.”
Meddai Alan Leslie Hale, athro’r cwrs diweddaraf i fyfyrwyr y Brifysgol: “Rwy’n falch bod y Brifysgol yn cydweithio â Choleg Llandrillo gan fod gennym diwtoriaid â chymwysterau rhagorol. Rwyf wedi mwynhau dysgu ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n wych gweld cymaint o bobl â diddordeb mewn dysgu Iaith arwyddo. Maent wedi bod yn wych ac yn ddysgwyr cyflym!”
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ebrill 2016