Staff ADNODD ar restr fer y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr
Yn dilyn pleidlais gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor, rhoddwyd dau o ddarlithwyr ADNODD ar restr fer y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr yn ddiweddar. Datblygwyd y gwobrau gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor gyda nawdd gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a’r Academi Addysg Uwch.
Cyflwynwyd dros 300 o wahanol enwebiadau gan fyfyrwyr ar ran 180 aelod staff gwahanol a oedd yn cynrychioli pob un o ysgolion academaidd y brifysgol Cynhaliwyd y broses enwebu ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Ar ôl y broses enwebu, rhoddwyd Dr Julia Jones a Dr Prysor Williams o ADNODD ar y rhestr fer ac roeddent yn y cinio gwobrwyo i dderbyn eu tystysgrifau. Enwebwyd Julia yn y categori myfyrwyr rhyngwladol, roedd ei henwebiad yn nodi "ei chefnogaeth ragorol i ôl-raddedigion rhyngwladol” a’i gwaith "yn trefnu grantiau, bwrsariaethau ac ysgoloriaethau i fyfyrwyr rhyngwladol”. Julia, a ddisgrifiwyd yn ei henwebiad fel darlithydd “sy’n ysbrydoli”, yw cyfarwyddwr cyrsiau BSc Ecoleg Tir a Môr Gymhwysol a BSc Cadwraeth yr Amgylchedd ADNODD. Wrth dderbyn ei henwebiad, dywedodd Julia "rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy rhoi ar restr fer y gwobrau gwych yma. Cefais fy ysbrydoli gan y noson. Roedd yn wych clywed am y dysgu a’r gefnogaeth ardderchog sy’n digwydd yn y brifysgol a sylweddoli cymaint y mae’r myfyrwyr yn ei werthfawrogi”.
Enwebwyd Prysor, sy’n gyfarwyddwr cyrsiau BSc Gwyddor yr Amgylchedd, BSc Rheoli’r Amgylchedd a BSc Amaethyddiaeth, Cadwraeth ac Amgylchedd ADNODD, am y wobr werdd. Mae’r wobr honno’n “cydnabod gwaith sy’n hyrwyddo ac yn cyfrannu at gynaliadwyedd”. Dyma oedd wedi ei nodi yn ei enwebiad: “gofynnwch i Dr Prysor am ei beiriant i ddefaid sy’n dadelfennu yn Henfaes a byddwch yn gwybod yn syth mai ef ddylai gael y Wobr Werdd! Mae gan Prysor arddull ddysgu difyr a dynamig ac mae'n denu diddordeb pob myfyriwr yn ei ddosbarthiadau ac ar deithiau maes ac mae bob amser yn barod i'ch helpu." Dywedodd Prysor “roedd yn wych cael fy enwebu a chael mynd i’r digwyddiad. Diolch i fyfyrwyr Prifysgol Bangor am eu gwaith caled yn trefnu'r holl beth".
Mae’n bosib y bydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a’r Academi Addysg Uwch yn noddi’r digwyddiad eto ac mae Undeb y Myfyrwyr eisoes yn cynllunio gwobrau'r flwyddyn nesaf. Y gobaith yw y bydd y project hwn yn mynd o nerth i nerth.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2012