Staff Bangor sy'n darparu Meddygaeth C21 yn y gogledd yn derbyn Cydnabyddiaeth C4ME gan Ysgol Feddygol Caerdydd
Gwahoddwyd myfyrwyr, staff a phartneriaid addysgu Ysgol Feddygol Caerdydd i enwebu eraill i’w cydnabod am eu cyfraniad eithriadol at brofiad myfyrwyr a GIG 2020. Gallai enwebiadau fod ar gyfer y rhai sydd wedi cyfrannu trwy ddarparu addysgu rhagorol neu ddatblygu arloesedd, cefnogaeth eithriadol i fyfyrwyr neu ddarpar fyfyrwyr, gwasanaeth cyhoeddus, dewrder, cynrychiolaeth ragorol o'r cyrsiau sy'n gysylltiedig ag Ysgol Feddygaeth Caerdydd, cefnogaeth i'r GIG a chyfoethogi profiad y myfyrwyr.
Cydnabuwyd rhagoriaeth Prifysgol Bangor wrth gyflwyno gradd Feddygaeth MBBCh C21 gogledd Cymru ac enwebwyd staff hen a newydd am eu hymrwymiad, eu brwdfrydedd a'u dawn. Gallwch wylio fideo fer gan un o'r enwebeion Dr Ffion Williams C21 gogledd Cymru Yn Codi i'r Her a fideo arall gan lywydd MedSoc, sy’n fyfyriwr ym Mangor, Firas Hamdan, ynghylch sut mae myfyrwyr meddygol Bangor C21 wedi Ymdopi â COVID.
Dywedodd Mr Merf Williams, Pennaeth dros dro Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor "Mae Bangor yn falch o weithio gydag Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd i gyflwyno'r cwrs meddygaeth hwn yn y gogledd a hoffwn ychwanegu fy niolch a’m llongyfarchiadau i'n myfyrwyr ac i dîm y rhaglen am yr holl waith caled a’r gwytnwch y maent wedi'i ddangos mewn cyfnod mor heriol.
Aelod o staff neu dîm C21 gogledd Cymru (academaidd neu weinyddol)
Enwebeion a'r Rhesymau dros Enwebu
Linda Brayshay
Ymrwymiad a brwdfrydedd rhagorol i efelychu ac addysg feddygol.
Jo Briggs
Ymrwymiad ac ymroddiad eithriadol i'r rhaglen C21nW.
Elinor Chapman
Bob amser yn ddefnyddiol iawn. Yn gyflym i ateb. Yn rhoi adnoddau defnyddiol. Yn gwneud amser i fyfyrwyr.
Yr Athro Dean Williams
Athro eithriadol, bob amser yn barod i helpu a chynnig cymorth arbennig!
Ymrwymiad i addysgu, gwybodaeth a sgiliau clinigol helaeth
Aelod staff gwych i holl fyfyrwyr C21 gogledd Cymru
Ymroddiad i ddatblygu a darparu addysg feddygol Bangor
Bob amser yn cynnig cymorth arbennig er yr amgylchiadau anodd.
Dr Ffion Williams
Cyfraniad unigol heb ei ail at C21 MBBCh.
Tîm rhaglen C21nW
Gwydnwch ac ymrwymiad mewn amgylchiadau heriol.
Am fanylion llawn, gweler Ysgol Feddygol Caerdydd
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2021