Staff ICPS yn mynychu derbyniad yn Nhŷ’r Arglwyddi
Ar 16 Mai, gwahoddwyd Gary Clifford a Stephen Clear o Sefydliad Astudiaethau Cystadlu a Chaffael yn Ysgol y Gyfraith, Bangor i fynd i dderbyniad partneriaid blynyddol Tŷ’r Arglwyddi gan yr Arglwydd Evans o Watford a'r Arglwydd Tony Berkeley.
Roedd y derbyniad a gynhaliwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi, wedi ei drefnu gan yr Institute for Collaborative Working (ICW), sef yr hen Partnership Sourcing Limited (PSL), i ddathlu blwyddyn lwyddiannus i BS11000 (fframwaith ar gyfer cysylltiadau busnesau cydweithredol), ac i lansio’r ISO 11000 yn y DU.
Sefydlwyd PSL ym 1990 gan yr Arglwydd Joseph fel menter ar y cyd rhwng yr Adran Masnach a Diwydiant - Yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau erbyn hyn - a Chydffederasiwn Diwydiant Prydain. Swyddogaeth barhaus yr ICW yw helpu sefydliadau mawr a bach yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, i adeiladu a datblygu cysylltiadau busnes cystadleuol effeithiol yn seiliedig ar ddulliau o gydweithio. Mae’r sefydliad yn arwain meddwl ac yn rym hollbwysig y tu ôl i ddatblygiad y Fframwaith Cysylltiadau Busnes Cydweithredol BS 11000, sef y safon gyntaf yn y byd mewn rheoli cysylltiadau, a gyhoeddwyd gan Sefydliad Safonau Prydain ac yn seiliedig ar y fethodoleg CRAFT a ddatblygwyd o brofiad ar y cyd Rhwydwaith Gweithredol y Sefydliad.
Wrth gyhoeddi yn y derbyniad bod PSL yn newid ei enw i ICW, dywedodd Les Pyle, Prif Weithredwr ICW, y bydd y sefydliad yn “canolbwyntio ar arweinyddiaeth meddwl cydweithiol a rhannu gwybodaeth, gyda’r rhwydwaith gweithredol yn parhau i fod wrth wraidd ei weithgareddau”.
Daeth dros 200 o bobl i’r digwyddiad yn cynnwys Prif Swyddogion Gweithredol, Penaethiaid Adrannau, cadeiryddion a rheolwyr, yn cynnwys cyfarwyddwyr o Network Rail, National Express, Toshiba, yr Adran Iechyd a BT, yn ogystal â Phennaeth Perfformiad Caffael o'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad a nifer o Arglwyddi ac Arglwyddesau.
Cafodd Gary a Stephen gyfle yn y digwyddiad i rwydweithio gydag amryw o arweinwyr busnes ac i drafod y cydweithio sy’n digwydd yn y sector preifat, a’r buddion a ddaw i’r sector cyhoeddus yn sgil ymdrechion o’r fath.
Meddai Gary Clifford, Rheolwr Project ‘Ennill mewn Tendro’ yn Ysgol y Gyfraith Bangor, “Roedd yn anrhydedd cael ein gwahodd i ddigwyddiad mor bwysig mewn lleoliad mor anhygoel. Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd cymysgu gydag arweinwyr diwydiant yn ogystal â chwrdd â nifer o bobl flaenllaw. Cododd y cyfle drwy un o’n siaradwyr yn yr wythnos gaffael, Robert Meakes, o’r Institute for Collaborative Working. Gofynnodd Robert i’r Sefydliad Astudiaethau Cystadlu a Chaffel (ICPS) fod yn bresennol yn y digwyddiad blynyddol hwn, yn arbennig gan ei fod wedi cael argraff dda o’r gwaith sydd wedi ei gyflawni hyd yma, a’i fod yn credu y gall y Sefydliad fod yn rym pwysig yng Nghymru ac ar draws y DU. Rwyf yn hynod falch i ddweud mai ni oedd yr unig Ysgol Gyfraith yn y digwyddiad ac yn un o ddim ond pedair Prifysgol a oedd yn bresennol ar y diwrnod cofiadwy hwn."
Ychwanegodd Stephen Clear, Swyddog Cefnogi Ymchwil Gyfreithiol Caffael Cyhoeddus ar gyfer ICPS, “roedd llawer o’r pynciau a drafodwyd gyda’r sector preifat yn Nhŷ’r Arglwyddi wedi eu trafod yn uniongyrchol yng nghynhadledd yr Wythnos Gaffael 2012 eleni, er enghraifft yr angen am ragor o hyfforddiant caffael ac ystyriaethau cynaliadwyedd. Rhoddodd y digwyddiad hwn hefyd gyfle i gael gylch trafod gyda’r diwydiant adeiladu a thrafnidiaeth ynglŷn â’r ffordd mae cydnabod ymdrechion y sector preifat i gydweithio yn helpu i sicrhau buddion i’r cyhoedd.”
Ar hyn o bryd mae’r tîm ICPS yn cynllunio ar gyfer Wythnos Gaffael 2013, a gynhelir rhwng dydd Llun, 18 Mawrth a dydd Gwener 22 Mawrth 2013.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ICPS, ewch i'r wefan neu cysylltwch â Becky Hughes.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2012