Staff Ieithoedd Modern yn llwyddo yn y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr
Cafwyd perfformiad hynod lwyddiannus gan yr Ysgol Ieithoedd Modern yn y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr 2012 yn ddiweddar. Llwyddodd pedwar aelod o staff i gyrraedd y rhestr fer ymysg nifer uchel o enwebiadau: enillodd Dr Linda Shortt Wobr Cefnogaeth Fugeiliol Eithriadol, Moira Tait oedd Aelod Staff Cefnogi’r Flwyddyn, ac roedd Siân Beidas a Sven Greitschus yn Athrawon Ôl-radd y Flwyddyn.
Llongyfarchiadau i’r pedwar ohonynt, ac yn enwedig i Siân Beidas (yn y llun), a enillodd ei chategori; hi yw Athrawes Ôl-radd y Flwyddyn 2012!
Am fwy o fanylion ar y gwobrau a’r rhestr o enillwyr, ewch i:
http://bangorstudents.com/slta/Default.asp?lang=cy
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2012