Staff o’r Ysgol Gwyddorau Eigion ar rhaglen BBC Radio Wales Science Cafe
Bydd y rhaglen Science Cafe ar BBC Radio Wales yn cynnwys gwaith ymchwilwyr hinsawdd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion mewn rhaglen hanner awr gaiff ei darlledu ddydd Mawrth nesaf (14 Awst) am 7pm.
Bydd cyflwynydd Science Cafe, Adam Walton, yn sgwrsio gyda Dr Paul Butler a'r Athro Chris Richardson am sut mae eu gwaith gyda chregyn molysgiaid môr hirhoedlog yn helpu gwyddonwyr i ddeall rôl hinsawdd y môr mewn newidiadau yn system hinsawdd y Ddaear dros y mileniwm diwethaf.
Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad diweddar o’u papur yn y cyfnodolyn Nature Communications a oedd yn cofnodi canlyniadau cyntaf eu gwaith ymchwil i gregyn bylchog o ddyfroedd oddi ar arfordir gogledd Gwlad yr Iâ.
Mae’r stori wreiddiol ar gael yma.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2012