Staff Prifysgol Bangor yn ennill Tystysgrifau am ddysgu’r Gymraeg
Mewn digwyddiad ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Chanolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, dyfarnwyd tystysgrifau ar gyfer cyflawniadau mewn Cymraeg ail-iaith CBAC a chymwysterau Cymraeg yn y Gweithle i 33 o ôl-raddedigion ac aelodau staff y Brifysgol. Trefnwyd seremoni i ddathlu eu llwyddiant ar ddiwrnod cenedlaethol Shw’mae S’mae, yn ddiweddar.
Yn ogystal â’r llwyddiant yn yr arholiadau CBAC, ‘roedd nifer o staff wedi ennill cymhwyster Cymraeg yn y Gweithle fel rhan o gynllun peilot newydd gan y Brifysgol a’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion. Mae’r cymhwyster yma’n cynnig cyrsiau Cymraeg sy’n adlewyrchu gofynion gweithle pob unigolyn. Bydd y profion terfynol wedyn yn cael eu teilwra ar gyfer gofynion unigryw maes gwaith pob aelod o staff. Mae’r cynllun peilot hwn yn cynnig opsiynau newydd i staff y Brifysgol, a bwriedir adeiladu ar y cynllun hwn yn y dyfodol.
Cyflwynwyd y tystysgrifau gan yr Is-ganghellor, Yr Athro John G Hughes. Ac yntau yn ddysgwr ei hun, cyflwynwyd tystysgrif arholiad CBAC lefel A ail iaith i’r Is-ganghellor gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Cymraeg i Oedolion y Gogledd, Elwyn Hughes.
Dywedodd yr Is-ganghellor: Mae datblygu sgiliau Cymraeg staff yn rhan allweddol o’n hymrwymiad fel Prifysgol i weithredu’n gwbl ddwyieithog ac yn ganolog i’n dyhead i gynnal ein safle fel y sefydliad addysg uwch arweiniol o ran y Gymraeg.”
Ychwanegodd Elwyn Hughes: “’Rydym wir yn gwerthfawrogi bod aelodau staff a myfyrwyr y Brifysgol yn hapus i weithio tuag at gymhwyster yn y Gymraeg, ac yn falch o fedru cynnig digwyddiad fel hwn i ddathlu eu llwyddiant.”
Ar hyn o bryd mae dros 100 o aelodau staff Prifysgol Bangor wedi cofrestru ar gynlluniau a chyrsiau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2014