Staff y Brifysgol i ddringo Mynydd Kilimanjaro i godi arian ar gyfer elusen
Mae dwy aelod o staff Prifysgol Bangor yn paratoi ar gyfer taith unwaith mewn oes i gofio am fachgen lleol a laddwyd mewn damwain ffordd.
Bydd Emma Wynne-Hughes o Ysgol Busnes Bangor a Hazel Frost o’r Ysgol Seicoleg yn dringo Mynydd Kilimanjaro i godi arian ar gyfer Tŷ Gobaith a Chronfa Goffa Darren Rhys.
Bu farw mab Hazel, Darren Rhys, ddydd San Steffan 2009 pan gafodd ei daro gan gar wrth seiclo’r daith 10 milltir o’i waith yn yr Amwythig i gartref ei dad. Ers hynny, mae Hazel wedi cynnal nifer o weithgareddau codi arian er cof am ei mab 18 oed a oedd yn ffan mawr o sglefrfyrddio ac yn 2011 agorwyd y parc sglefrfyrddio cyntaf ym Mangor i gofio amdano.
Gyda’r her ddiweddaraf hon bydd Emma a Hazel yn mynd ar daith flinderog 5 diwrnod at gopa Kilimanjaro sy’n 5,895 metr uwch ben y môr, ac yna dod i lawr o ben y mynydd mewn dau ddiwrnod.
Ar hyn o bryd mae’r ddwy yn dilyn cynllun hyfforddi llym sy’n cynnwys cerdded gyda bagiau cefn trwm, mynd i’r gampfa a throedio mynyddoedd garw Eryri. Cyn iddynt wynebu'r mynydd uchaf yn Affrica, byddant yn cael profion i wneud yn siŵr eu bod yn gallu delio'n gorfforol gyda'r uchder.
"Mae gweld y ffordd ryfeddol y mae Hazel wedi delio gyda’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi fy ngwneud yn benderfynol o dderbyn yr her," meddai Emma, sydd hefyd yn Uwch Warden yn neuaddau preswyl myfyrwyr Prifysgol Bangor. “Dyma her fwyaf fy mywyd ond dwi’n siŵr mai hwn fydd y profiad mwyaf gwerthfawr.”
Bydd Emma a Hazel yn dechrau ar eu taith 28 Gorffennaf. Os hoffech gyfrannu at Dŷ Gobaith er cof am Darren, ewch i http://www.justgiving.com/Hazel-Frost-and-Emma-Wynne-Hughes
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2012