Staff Ysgol Seicoleg ar S4C
Rhaglen wyddonol newydd yw Corff Cymru yn edrych ar y corff o safbwynt y Cymry. Yn ail bennod y gyfres byddwn yn edrych ar yr ymennydd. Byddwn yn dysgu am effaith dwyieithrwydd ar yr ymennydd gyda tim yr Athro Debbie Mills o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor a Dr Enlli Thomas o'r Ysgol Addysg. Byddwn hefyd yn dysgu am sut mae'r ymennydd yn gweithio, yn CUBRIC yng Nghaerdydd, a darganfod mwy am ddeallusrwydd.
Bydd Corff Cymru yn cael ei ddarlledu ar S4C bob nos Iau am 8.25yh
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ebrill 2013