Staff Ysgol y Gyfraith yn cael cydnabyddiaeth am eu cefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol
Yn ddiweddar, mae Ysgol y Gyfraith, Bangor wedi dathlu noson arall o lwyddiant o ran gwobrau dysgu yn y seremoni Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr a gynhaliwyd eleni.
Trefnir y gwobrau hyn yn flynyddol gan Undeb y Myfyrwyr, ochr yn ochr â’r Brifysgol, ac maent yn rhoi cyfle i fyfyrwyr enwebu unrhyw aelod staff mewn amrywiaeth o gategorïau, o “Aelod Staff Cefnogi’r Flwyddyn” hyd at “Athro’r Flwyddyn”. Eleni, daeth bron i 300 o enwebiadau i law, yn cwmpasu’r holl ystod o swyddi ac adrannau staff.
Rhoddwyd enwau tri aelod o staff Ysgol y Gyfraith ar gyfer gwobrau eleni, sef Dr Marie Parker a Stephen Clear yng nghategori’r ‘Wobr Ryngwladol’, am eu gwaith gyda chyfres y Byd Cyfreithiol, ac am eu gofal bugeiliol a’u cefnogaeth tuag at fyfyrwyr rhyngwladol; a Li Ling Tang, yng nghategori’r ‘Staff Cefnogi’ am gynorthwyo a chroesawu myfyrwyr cyfraith newydd i Fangor, ar gyfer graddau Meistr a chymwysterau ôl-radd.
Er bod y gystadleuaeth yn y ddau gategori yn ffyrnig, llwyddodd staff Ysgol y Gyfraith i gyrraedd y chwech olaf ym mhob un o’u categorïau priodol.
Aeth y cyfan o’r tri aelod staff i’r cinio gwobrwyo yn Neuadd Prichard Jones, ynghyd â’r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith ac uwch-aelodau staff y Brifysgol, yn cynnwys Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro John Hughes.
Ar y noson, aeth Stephen ymlaen i ennill y Wobr ‘Ryngwladol’, a’r myfyrwyr yn rhoi’r rhesymau canlynol am ei lwyddiant:
“Mae’n ymdrechu’n benodol gyda myfyrwyr rhyngwladol, i ddeall sut y maent yn cael Bangor. Mae’n gwella eu profiad fel myfyrwyr trwy adael ei ddrws yn agored er mwyn ateb unrhyw gwestiynau a fo ganddynt, pa mor fawr neu fach a fyddont.”
“Mae Stephen yn hyrwyddo rhyngwladoli ac ymwybyddiaeth o wahanol ddiwylliannau, daliadau crefyddol a chenhedloedd.”
“Mae ganddo allu rhyfeddol i adnabod myfyrwyr a all fod yn cael anawsterau, ac yn eu hannog i ddefnyddio gwasanaethau cefnogi, neu i gyfranogi mewn clybiau a chymdeithasau yn Undeb y Myfyrwyr.”
Ar y noson, derbyniodd Stephen ei wobr gan yr Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-Ganghellor Addysgu a Dysgu, a chan gynrychiolwyr o Undeb y Myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mai 2015