Stevie yn hwylio'r Iwerydd
Mae aelod o staff Prifysgol Bangor wedi hwylio'n llwyddiannus dros yr Iwerydd yn ddiweddar i godi arian ar gyfer Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) Biwmares.
Cymerodd Stevie Scanlan, Rheolwr Marchnata yng Ngholeg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol Prifysgol Bangor, fis o wyliau di-dâl yn ddiweddar i gyflawni'r her unwaith mewn oes hon gyda'i brawd a'i thad.
Fe wnaethant hwylio o'r Ynysoedd Dedwydd am Antigwa ym mis Tachwedd, ar ôl treulio'r penwythnos blaenorol yn paratoi'r cwch hwylio 56 troedfedd ar gyfer y fordaith 20 diwrnod.
Dywedodd Stevie, o Fiwmares: "Roedd yr holl brofiad yn rhyfeddol. Roedd yn llawer mwy o her feddyliol na her gorfforol, y peth mwyaf anodd oedd dygymod â'r ffaith nad oes posib gadael y cwch, ond nawr fy mod wedi ei gyflawni rwy'n teimlo y gallaswn wneud unrhyw beth.
"Fel arfer byddaf yn rasio celfadau yma ym Miwmares ac nid oeddwn erioed wedi bod ar fordaith hir o'r blaen, ond doedd gen i ddim ofn o gwbl, dyna oedd y peth olaf ar fy meddwl.
“Yr uchafbwynt i mi oedd bod yn wyliwr y nos. Roedd hynny'n anhygoel, bod yn y caban peilot yn gwylio'r sêr o'ch cwmpas ym mhob man. Rydych yn teimlo mor unig ac yn anghofio'r holl bryderon gwirion sy'n meddiannu rhywun gartref, ac mae'r ymennydd yn ymlacio. Roedd bron iawn fel myfyrio. Rwy'n teimlo fy mod i wedi bod ar encilfa 20 diwrnod ac rwy'n nabod fy hun gymaint yn well!
"Fe wnaethon ni chwerthin bob dydd, yn enwedig pan wnaeth pysgodyn hedegog hedfan mewn i'r caban a tharo fy mrawd ar ei gefn yng nghanol y nos! Fe welsom ni heidiau o forfilod, fe wnaethon ni ymdrochi yn yr Iwerydd gyda 3,000 o droedfeddi o ddŵr oddi tanom - fe gawsom gymaint o brofiadau anhygoel! Mae'n rhywbeth y byddwn yn ei gofio am byth ac rwy'n teimlo mor lwcus fy mod wedi rhannu'r profiad gyda'm tad a'm brawd.
"Wedi dweud hynny, wnes i fethu fy merch yn fawr, ond fe ges i'r cyfle i siarad â hi ar y ffôn lloeren unwaith yr wythnos. Yr oedd yn wych ei gweld hi eto pan wnes i ddychwelyd i Gymru.
"Pan wnaethon ni gyrraedd Antigwa roedd fy llysfam yno i'n croesawu ni gyda gwydraid o siampaen. Mae hi a'm tad yn ar fin mynd i hwylio o gwmpas y byd am flwyddyn.
“Rwyf wrth fy modd â'r gefnogaeth rwyf wedi ei chael gan fy ffrindiau, cydweithwyr a'm teulu. Rwyf wedi dod o'r profiad yma gydag ymdeimlad enfawr o gyrhaeddiad ac rwyf dal i fod yn yr uchelfannau, dydw i ddim am iddo ddod i ben!"
Mae Stevie a'i theulu eisoes wedi codi £700 ar gyfer yr RNLI. Maent yn gobeithio codi £1,000 erbyn y Flwyddyn Newydd.
"Roeddwn am gefnogi’r RNLI am fod yr holl wirfoddolwyr mor anhygoel, maent i gyd â swyddi cyffredin ond yn gollwng pob dim i achub pobl mewn angen - nid dim ond morwyr a phobl ar y môr, ond hefyd pobl fel chi a fi... er enghraifft roedden nhw yn Llanelwy yn ddiweddar yn helpu yn ystod y llifogydd; maent yn gweithio oriau hynod o hir. Maent yn haeddu pob cymorth y gallant ei gael."
I noddi Stevie ewch at http://www.justgiving.com/saraandcharlie
Dyddiad cyhoeddi: 20 Rhagfyr 2012