Stori’r dudalen flaen i Nicholas
Mae Nicholas Whitmore, myfyriwr Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau yn ei drydedd flwyddyn, wedi cael erthygl wedi ei gyhoeddi ar dudalen flaen y Daily Post, Iau 11 Tachwedd 2010.
“Mae hyn yn llwyddiant anhygoel i Nicholas,” meddai’r darlithydd mewn newyddiaduraeth , Dr Llion Iwan.
“Mae eisoes wedi bod ar leoliad gwaith uchel ei bri efo The Times yn Llundain, swydd mae niferoedd yn ceisio amdani, ac yn rhoi ar waith yn effeithiol, yr hyn mae wedi bod yn ei ddysgu ar y cwrs newyddiaduraeth.”
Meddai Nicholas: “Mae’r profiad gwaith efo’r Daily Post yn wych ac wedi fy helpu wrth hel toriadau o’m gwaith. Mae cael y rhain yn agor drysau i gyfleoedd pellach. Mae gen i brofiad gwaith efo The Telegraph wedi’i drefnu yn ogystal.”
“Mae’n gyffrous, mae rhywbeth newydd yn digwydd bob dydd ac mae’n wefr gweld fy enw mewn print, yn enwedig i gael y dudalen flaen. Mae hynny’n gryn gyrhaeddiad, dwi’n falch ohono ac yn falch mod i wedi ei gyflawni cyn gorffen fy ngradd.”
Meddai Wendy Jones, Pennaeth Cynnwys Cynorthwyol ar y Daily Post: "Fe wnaeth Nicholas yn dda iawn ar y stori yna. Fe welodd luniau teledu’n dangos fod pethau’n troi’n filain a chysylltu’n syth efo pobol yr oedd o yn ei adnadbod yno. Llwyddodd i gael dyfyniadau gwych i ni yn ogystal â lluniau o’r fan. Mae’n wir haeddu’i enw ar y dudalen flaen."
Darllenwch stori’r Daily Post yma.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Tachwedd 2010