Stori ryfeddol am gyfraniad Prifysgol Bangor i ddatblygiad hedfan awyrennau
Bydd stori ryfeddol am gyfraniad Prifysgol Bangor at ddatblygiad hedfan awyrennau’n cael ei ddatgelu heno (Dydd Mercher 2 Tachwedd) am 6.30 mewn darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau’r Brifysgol.
Bydd yr Athro TJM Boyd yn trafod y cyfan mewn darlith: "George Bryan Hartley: Prophet without Honour ".
Mae'r stori yn troi o gwmpas George Hartley Bryan, a fu’n Athro mewn Mathemateg Bur a Chymhwysol ym Mangor am 30 mlynedd o 1896. Ef oedd un o'r ysgolheigion mwyaf rhyfeddol erioed i wasanaethu’r Brifysgol. Yn fathemategydd gwych, roedd hefyd yn ddyn gyda chred bron a bod yn Feseianaidd na fyddai hedfan ddiogel oni bai i awyrennau gael eu cynllunio i fod yn sefydlog.
Ganrif yn ôl, yn 1911, cyhoeddodd Stability in Aviation, llyfr a oedd yn gyfrifol am sefydlu Bangor ar flaen y gad o ran datblygiadau gwyddonol newydd. Mae casgliadau’r llyfr yn dal yn dda ar gyfer awyrennau’r presennol. Yn y bôn defnyddiodd Bryan egwyddorion mathemateg i ateb y cwestiwn o sefydlogrwydd awyrennau. Roedd ei gyhoeddiad yn ganlyniad i gyfres o arbrofion ym Mangor a'r cyffiniau, gan weithio ar sefydlogrwydd gleiderau efo WE Williams, dyn ifanc lleol a raddiodd mewn ffiseg a mathemateg o Fangor. Arweiniodd llyfr 1911 at ddyfarnu’r ail fedal aur a ddyfarnwyd erioed gan y Gymdeithas Awyrennol Frenhinol (Royal Aeronautical Society)- gyda’r cyntaf wedi mynd at y brodyr Wright.
Mae’r Athro TJM Boyd wedi ymchwilio’n helaeth i waith yr Athro G.H. Bryan. Roedd Athro TJM Boyd yn Athro Mathemateg ym Mangor o 1968 tan 1990, pan benodwyd yn Athro Ffiseg ym Mhrifysgol Essex. Mae’r Ddarlith Ballard Mathews "George Hartley Bryan : Prophet without Honour” yn nodi canmlwyddiant gwaith mawr Bryan.
"Roedd Bryan yn aml yn tynnu’n groes", meddai'r Athro Boyd, "Enynnodd ei waith cynnar clod gan Einstein ond, ar yr un pryd, roedd y cocyn-hitio ar gyfer castiau myfyrwyr di-ri ac yn ddraenen yn ystlys Syr Harry Reichel, y Pennaeth a ddaeth i ddifaru’ iddo’i benodi erioed. "
Bydd yr Athro Boyd yn cyflwyno’i fersiwn o o gyfraniad Bangor at stori hedfan, ac yn apelio am i’r un parch uchel gael ei dalu iddo ym Mangor ac sydd tramor - lle’i ystyrir ymysg arloeswyr hedfan.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2011