Straeon Graddio 2012
I ddathlu wythnos graddio Prifysgol Bangor, darllenwch ein straeon llwyddiannau myfyrwyr:
Fideos Graddio 2012
Gwyliwch ein fideos graddio ar BangorTV
Alice Barbour-Hill - Eidaleg & Saesneg
Bydd myfyrwraig leol sydd wedi teithio cryn dipyn yn graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd BA Eidaleg a Saesneg yr wythnos hon.
Gadawodd Alice Barbour-Hill, 30, o Penlon, Bangor, Ysgol Tryfan ar ôl ei harholiadau TGAU i fynd i hyfforddi gyda’r marchogwr Dressage Olympaidd, David Pincus yn Swydd Henffordd. Ddwy flynedd yn ddiweddarach....
Emma Hanks - Astudiaethau Plentyndod
Bydd myfyrwraig o Brifysgol Bangor a drechodd salwch yn ystod ei astudiaethau yn graddio gyda BA mewn Astudiaethau Plentyndod yr wythnos hon.
Mae Emma Louise Hanks, 21, o Benygroes, Gwynedd, yn edrych ymlaen at raddio ar ôl cwblhau ei astudiaethau er gwaethaf nifer o anawsterau a rhwystrau dros y tair blynedd diwethaf.
Christopher Waldron - Cyfrifadureg
Gyda'r gobaith o un diwrnod i fod yn rhedeg stiwdio dylunio gemau cyfrifiadurol eu hunain, mae myfyriwr sy’n graddio o Brifysgol Bangor yn edrych ymlaen at ddechrau ei swydd newydd yn y diwydiant cyfrifiadurol.
Mae Christopher Antony Waldron, 21, o Rubery, Birmingham yn graddio gyda BSc Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon.
Francesca McGrath - BSc Cadwraeth Amgylcheddol
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor, sydd wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf yr wythnos hon, wedi ennill Gwobr Cyflawniad Academaidd ar ôl derbyn cyntaf rhagorol ar gyfer ei thraethawd hir.
Mae Francesca McGrath, 20, o Castle Acre, Norfolk, yn derbyn gradd BSc Cadwraeth Amgylcheddol dosbarth cyntaf yr wythnos yma.
Gaia Brezzo - Seicoleg
Mae myfyriwr rhyngwladol o Brifysgol Bangor sy'n graddio'r wythnos hon wedi mwynhau ei amser ym Mangor cymaint, fe fydd yn dychwelyd ym mis Medi i astudio ar gwrs ôl-radd.
Bydd Gaia Brezzo, 20, o Milan yn yr Eidal yn graddio'r wythnos hon o Brifysgol Bangor gyda gradd BSc Seicoleg. Derbyniodd Gaia ysgoloriaeth i astudio ym Mangor yn yr Ysgol Seicoleg oherwydd bod yr Ysgol Seicoleg yn un o’r rhai gorau yn y byd.
Hannah Phair - Seicoleg
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor, a roddodd ei hamser i wirfoddoli yn y gymuned, yn graddio wythnos yma gyda gradd dosbarth cyntaf.
Bydd Hannah Phair, 21, o Market Drayton, Sir Stafford, yn graddio gyda gradd BSc Seicoleg.
Karina Anne Marsden - Gwyddorau Amgylcheddol
Dywedodd Karina Anne Marsden, 22, o Gerlan ym Methesda, cyn disgybl Ysgol Friars: "Mae'n deimlad braf fod yr holl waith caled wedi talu ar ei ganfed a minnau wedi gweithio mor galed"
Laura-Jean Stokes - Seicoleg
Mae myfyrwraig Seicoleg yn graddio eleni gydag yn dilyn "tair blynedd orau ei bywyd" ym Mhrifysgol Bangor
Dywedodd Laura-Jean Stokes, 21, o Bournemouth, Dorset, cyn disgybl Ysgol Talbot Heath: "Mae gen i deimladau cymysg am raddio. Ar un llaw dwi'n edrych ymlaen yn fawr i’r dyfodol ond dwi hefyd yn eithaf trist gan ei fod yn golygu diwedd y tair blynedd gorau o fy mywyd! Er fy mod yn llawn cynnwrf am ddod yn ôl ym mis Medi i wneud cwrs Meistr, byddaf yn colli llawer o fy ffrindiau gan nad ydynt yn aros ym Mangor.”
Rachael Jones - Cyfrifadureg
Ar ôl tair blynedd o waith caled, mae ysgrifenyddes gyfreithiol ynghynt o Ruddlan, Sir Ddinbych, wedi glanio ei swydd ddelfrydol.
Mae Rachael Jones, 26, yn graddio'r wythnos hon gyda gradd BSc Cyfrifiadureg o Brifysgol Bangor. Gwnaeth y cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Eirias ei chais i brifysgol ar amrantiad.
Shanti Shanker - Seicoleg
Mae myfyrwraig ryngwladol ôl-radd o Brifysgol Bangor, a gafodd y cyfle i berfformio dawns Indiaid clasurol yn ystod digwyddiad Pontio, yn graddio'r wythnos hon gyda MSc gan yr Ysgol Seicoleg.
Mae Shanti Shanker, 32, o Andheri (W), Mumbai, India, yn graddio o’r Ysgol Seicoleg gyda M.Sc. yn Sylfeini Niwroseicoleg Clinigol.
Simonetta Mitchell - Seicoleg
Bydd Simonetta Mitchell, 21, o Crewe yn Sir Gaer, nid yn unig yn graddio gyda gradd mewn Seicoleg wythnos yma ond hefyd yn derbyn Gwobr Cyflogadwyedd Bangor, sy'n tynnu sylw at ei holl waith gwirfoddoli mae hi wedi cwblhau dros y blynyddoedd diwethaf.
Nicola Price - Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Mae mam ifanc o Hen Golwyn yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon ar ôl tair blynedd o waith caled.
Bydd Nicola Jayne Price, 23, cyn myfyrwraig yng Ngholeg Llandrillo, yn graddio gyda BA mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu. Mae Nicola hefyd wedi ennill Gwobr Jane Rudall, sydd werth £150.
Rebecca Nicholas - Sŵoleg
Mae myfyrwraig ôl-raddedig o Brifysgol Bangor, a deithiodd dramor i wneud ei gwaith hymchwil, yn edrych ymlaen at ddyfodol yn y byd academaidd ar ôl ennill gwobr Goffa werth £150.
Bydd Rebecca Nicholas, 22, o Tiverton yn Devon, yn graddio gyda gradd Meistr mewn Sŵoleg gyda Herpetology yr wythnos hon. Bydd hefyd yn cael gwobr Goffa Ian Herbert am y gradd meistr gorau o fewn y maes Bywydeg Cymhwysol.
Kimberley Prior - Sŵoleg
Mae Kimberley Prior, 21, o Burnham-on-Crouch, Essex yn graddio'r wythnos hon gyda gradd BSc Sŵoleg o Brifysgol Bangor. Mae'r cyn-ddisgybl Ysgol William De Ferrers hefyd wedi derbyn gwobr Sir Alfred Lewis o £ 150 ar gyfer myfyriwr blwyddyn olaf gorau yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol.
Richard Stopforth - Gwyddoniaeth Biofeddygol
Bydd Richard James Stopforth, 21 o Burnley, Swydd Gaerhirfryn yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon gyda gradd BSc Gwyddoniaeth Biofeddygol. Cafodd cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Cof E St Wilfrid yn Blackburn ysgoloriaeth ar gychwyn ei astudiaethau ac mae hefyd yn derbyn y Wobr Goffa'r Athro W Charles Evans o £ 200 ar gyfer y myfyriwr gorau mewn Gwyddoniaeth Biofeddygol yn y flwyddyn olaf.
Eli Gourdie - Cyfrifiadureg
Bydd Eli Gourdie, 29, o Glynnog Fawr, Caernarfon yn graddio'r wythnos hon gyda BSc mewn Cyfrifiadureg. Wedi byw yng ngogledd Cymru ar hyd ei oes, penderfynodd astudio ym Mhrifysgol Bangor gan ei fod yn ei alluogi i fyw gartref i helpu ei fam wrth barhau â'i addysg
Gareth Hugh Evans-Jones - Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol
Bydd Gareth Hugh Evans-Jones, 21, yn graddio o Brifysgol Bangor gyda BA Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol yr wythnos hon. Ennillodd Gareth o Marian Glas, Ynys Môn, y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Ryng-golegol eleni yn ogystal a Gwobr Syr John Morris Jones.
Karen, Geraint a Rebecca Jones
Daw ffrwyth gwaith caled, ymroddiad ac aberth i ben o'r diwedd yn dda ar gyfer teulu o Lanrug, gyda’r tad, mam a merch yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon.
Rhodri Llewelyn - Peirianneg Electronig
Bydd myfyriwr aeddfed o Brifysgol Bangor yn graddio eleni ar ôl mentro’n ôl i’r byd addysg wedi blynyddoedd o weithio dros Ewrop. Bydd Rhodri Llewelyn, 36, o Fangor, yn graddio gyda gradd BEng mewn Peirianneg Electronig wythnos yma er iddo adael ysgol yn 16 mlwydd oed.
Susan Clarkson - Seicoleg
Mae mam gyda phump o blant o Brestatyn, wedi graddio o'r diwedd gyda gradd gyntaf, wedi ei llwybr academaidd cael ei ddal yn ôl am bron i 20 mlynedd.
Lindsey Swift - Ffrangeg
Bydd myfyrwraig sydd wedi ennill gwobr ac oedd y cyntaf o'i theulu i erioed astudio mewn Prifysgol, yn graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd mewn Ffrangeg yr wythnos hon.
Kathryn Lee - Gwyddoniaeth Biofeddygol
Bydd myfyrwraig leol, sydd wedi ennill gwobr, yn graddio o Brifysgol Bangor eleni ar ôl " pedair blynedd wych ym Mangor." Bydd Kathryn Lee, 22, o'r Rhyl, yn graddio'r wythnos hon gyda gradd mewn Gwyddoniaeth Biofeddygol. Mae hi hefyd wedi ennill Gwobr Jones-Morris, gwerth £100, ar gyfer y project blwyddyn olaf gorau sydd yn berthnasol i Ofal Iechyd.
Samuel Edward Jones - Cymraeg
Myfyriwr o Ynys Mon yn graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd dosbarth cyntaf a gwobr £100.Bydd Samuel Edward Jones, 21, o Brynteg, Ynys Môn, yn graddio gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg wythnos yma.
Ember Coates - Sŵoleg a Chadwriaeth
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor, sydd wedi ennill gwobr, yn edrych ymlaen at y cam nesaf o'i bywyd ar ôl iddi raddio'r wythnos hon. Mae Ember Helen Alana Coates, 21, o Crossgar, Gogledd Iwerddon, yn graddio gyda gradd mewn Sŵoleg a Chadwraeth. Mae hi hefyd wedi ennill Gwobr Pen y Ffridd, sydd gwerth £150.
Niall Pettitt - Cadwraeth Amgylcheddol
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor sydd wedi ennill gwobr yn graddio’r wythnos hon gyda Gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cadwraeth Amgylcheddol.
Bydd Niall Pettitt, 21, o Mildenhall, Bury St Edmunds, yn graddio'r wythnos hon gyda BSc mewn Cadwraeth Amgylcheddol. Mae hefyd wedi ennill gwobr William Griffith, werth £100.
Billy Lovelock - Addysg
Ym mis Medi, bydd myfyriwr sy’n graddio o Brifysgol Bangor yn mynd yn ôl i’r ysgol er mwyn cyflawni uchelgais ei blentyndod o fod yn athro.
Bydd Billy James Lovelock, 21, o Tiptree, Colchester, yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon gyda gradd BSc Dylunio a Thechnoleg sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig.
Sandra Williams - Seicoleg
Mae mam i chwech yn dathlu diwedd pennod yn ei thaith drwy addysg ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon.
Bydd Sandra Williams, 42, o Langefni, yn derbyn gradd BSc Seicoleg ar ôl tair blynedd o weithio’n galed a bod yn gyfan gwbl benderfynol.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2012