Sut i ddechrau busnes am lai na £5,000
Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr, graddedigion a staff y Brifysgol ddysgu sut i ddechrau busnes am lai na £5,000 mewn cyflwyniad ‘Start-Up Smart’ a drefnwyd gan broject Byddwch Fentrus y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Daeth dros drigain o bobl o amrywiaeth o gefndiroedd ac adrannau academaidd i'r digwyddiad.
Rhoddwyd y cyflwyniad gan Robin Bennett, rheolwr gyfarwyddwr The Bennett Group ac awdur “Start-Up Smart; How to start and build a business for £5000.” Defnyddiodd Robin ei brofiad o greu nifer o gwmnïau i amlygu'r manteision o ddechrau cwmni gyda chyllideb fach ac ychydig iawn o arian wedi ei fenthyca. Gan siarad mewn ffordd hamddenol a di-lol, rhoddodd ddisgrifiad llawn o’i lwyddiannau a’i fethiannau gyda chwmnïau gwahanol a rhoddodd hefyd gyngor ar ddechrau cwmni llwyddiannus.
Cyflwynwyd copïau o lyfr Robin i bum aelod o’r gynulleidfa a ddewiswyd ar hap. Roedd siop lyfrau’r Muse, sydd ar Ffordd Caergybi ym Mangor, hefyd yno yn gwerthu copïau ychwanegol o’r llyfr ac ar ôl y cyflwyniad bu Robin hefyd yn llofnodi rhai o’r llyfrau.
Dywedodd Lowri Owen, Hyrwyddwr Menter ym Mhrifysgol Bangor:
“Mae’n wych cael entrepreneur fel Robin Bennett yn siarad ym Mhrifysgol Bangor. Roedd ei brofiad helaeth o ddechrau cwmnïau yn cael ei adlewyrchu yn ei gyngor ymarferol i fyfyrwyr, graddedigion a staff ar ddechrau cwmni gan fenthyca cyn lleied â phosib o arian; neges sy'n hynod o berthnasol yn yr hinsawdd economaidd heddiw."
Mae’r project Byddwch Fentrus yn cynnal gweithdai, cystadlaethau a digwyddiadau eraill sy’n ymwneud â sgiliau menter a dechrau busnes. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.bangor.ac.uk/careers neu www.facebookcom/b-enterprising, neu cysylltwch â’r tîm:
E-bost: b-enterprising@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 383651.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2011