Sut mae sicrhau'r canlyniadau gorau mewn addysg ddwyieithog
Bellach mae'r profion Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a gynhaliwyd ar draws Cymru eleni i blant ysgol rhwng 6-14 oed bron â dod i ben a bydd arbenigwyr yn trafod y ffordd orau o addysgu plant mewn sefyllfa ddwyieithog mewn cynhadledd ryngwladol o bwys ar Ddwyieithrwydd mewn Addysg. Byddant yn cyflwyno argymhellion ynghylch sut i sicrhau bod plant yn cyrraedd y safonau uchaf ym mhob un o'u hieithoedd.
Bydd Prifysgol Bangor yn cynnal y Gynhadledd Ryngwladol ar Ddwyieithrwydd mewn Addysg rhwng 10 a 12 Mehefin 2016. Noddir y digwyddiad hwn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a bydd ymchwilwyr ac ymarferwyr o amryw o wledydd yn dod ynghyd i drafod datblygiadau ac ymarfer gorau ym maes dwyieithrwydd mewn addysg.
Mae ymchwil ddiweddar gan staff ym Mhrifysgol Bangor wedi dangos bod perthynas gymhleth rhwng dwyieithrwydd ac ystod o ffactorau megis oedran a hyfedredd iaith, ac y gallai dwyieithrwydd gynnig manteision mewn amryw o feysydd, yn enwedig o ran perfformiad gwybyddol pobl mewn oed. Gallai dwyieithrwydd mewn addysg fod yn faes allweddol i'w ddatblygu er mwyn sicrhau bod y manteision hyn ar gael i gynifer o bobl â phosib.
Un maes trafod allweddol yw trawsieithu, neu ddefnyddio dwy iaith ar lawr y dosbarth wrth rannu gwybodaeth neu syniadau newydd. Golyga hyn y gall plant ddysgu am bwnc neu ei drafod mewn un iaith ac ysgrifennu amdano mewn iaith arall. Mae'n ffordd o gryfhau'r ddwy iaith a hefyd o ddyfnhau dealltwriaeth o'r pwnc newydd. Bathwyd y term 'trawsieithu' gan Cen Williams ym Mhrifysgol Bangor a bellach cafodd ei fabwysiadu'n eang fel term ac ymarfer addysgol ar draws y byd.
Mae'n fraint i'r gynhadledd gael dathlu cyfraniad oes yr Athro Colin Baker yn y maes hwn a bydd yn croesawu'r Athro Ofelia Garcia, academydd ac awdur blaenllaw ar y pwnc i draddodi'r ddarlith BAKER gyntaf (Bangor yn Hyrwyddo Gwybodaeth mewn Ymchwil Addysg/Bangor Advancing Knowledge in Education Research). Bydd y digwyddiad hwn yn dathlu gwaith un o arbenigwyr mwyaf adnabyddus yr Ysgol Addysg ac un sy'n awdurdod blaenllaw ar ddwyieithrwydd ac yn edrych ar ddyfodol ymchwil yn y maes.
"Dyma'r tro cyntaf i ddigwyddiad o'r maint hwn sy'n dathlu enw rhyngwladol Prifysgol Bangor fel arweinydd ym maes addysg ddwyieithog gael ei gynnal yng nghartref un o ddarparwyr mwyaf llwyddiannus y byd ym maes addysg ddwyieithog. Mae'r defnydd o fwy nag un iaith addysgu mewn rhaglen addysgol benodol yn fater sydd o bwys cynyddol mewn llawer o ysgolion ledled y byd ac mae ystod ac ansawdd yr ymchwil a gyflwynir yn y gynhadledd yn brawf o'r diddordeb byd-eang yn y maes hwn", meddai'r Athro Enlli Thomas, Pennaeth yr Ysgol Addysg.
Mae'r gynhadledd hon hefyd yn tynnu ynghyd ymchwil o feysydd allweddol sy'n ymchwilio i agweddau pobl at ddwyieithrwydd mewn ystod o gyd-destunau a sut mae hyn yn effeithio ar y defnydd o ieithoedd, yr angen i fynd ati i gynnig dewis iaith wrth ddarparu gofal, arferion addysgu dwyieithog gorau, dylanwad teulu a ffrindiau ar y defnydd o iaith a'r adnoddau sydd ar gael i addysgu'n ddwyieithog.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2016