Sut y mae prifysgolion Cymru'n datblygu'r byd o'n cwmpas?
Mae heddiw'n nodi lansiad porth newydd – www.researchwales.ac.uk – a fydd yn tynnu sylw at rai o'r enghreifftiau gwych o sut y mae prifysgolion Cymru'n datblygu'r byd o'n cwmpas. Ymhlith yr ymchwil sy'n cael ei arddangos mae enghreifftiau gwych o waith ymchwil gan academyddion Prifysgol Bangor. Mae'r rhain yn cynnwys yr enghreifftiau canlynol.
Atal iselder
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi darganfod tystiolaeth gref fod Therapi Gwybyddol yn Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBCT) yn chwarae rôl bwysig nid yn unig yn atal iselder rhag ailddigwydd, ond hefyd yn gwella lles yn fwy cyffredinol. Yn 2004, cytunodd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) fod y therapi yn rhaglen atal iselder gost-effeithiol a chymeradwyodd ei ffordd o weithio.
Dementia
Mae tua 36 miliwn o bobl yn byw â dementia ledled y byd – ac mae 750,000 ohonynt yng ngwledydd Prydain, ac mae’r ffigyrau hynny’n cynyddu. Mae Prifysgol Bangor yn cyfrannu at gorff tystiolaeth ymyriadau i wella ansawdd bywyd pobl yn byw â dementia. Erbyn hyn mae ymyriad o’r enw ‘therapi symbyliad gwybyddol’ yn driniaeth sy’n cael ei hargymell a’i defnyddio’n helaeth yng ngwledydd Prydain ac yn rhyngwladol. Mae astudiaethau Prifysgol Bangor wedi dangos fod y gwahaniaethau mewn ffwythiant gwybyddol cymaint â’r rhai sy’n gysylltiedig â’r feddyginiaeth sydd ar gael ar hyn o bryd. Mae dadansoddiadau economaidd yn awgrymu y gallai therapi symbyliad gwybyddol arbed dros £54.9 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng ngwledydd Prydain, trwy’r defnydd o feddyginiaeth.
Annog plant i fwyta’n iach
Mae rhaglen arobryn a luniwyd gan Uned Ymchwil Bwyd a Gweithgarwch Prifysgol Bangor yn arwain at welliannau parhaol yn faint o ffrwythau a llysiau y mae plant yn eu bwyta. Mae’r Food Dudes yn bedwar cymeriad ffuglennol sydd wrth eu boddau’n bwyta ffrwythau a llysiau, “ffynhonnell egni arbennig sydd ei angen arnynt i drechu grymoedd drygioni”. Wedi i’r rhaglen gael ei mabwysiadu ym mhob ysgol gynradd yn Iwerddon, er enghraifft, roedd plant yn bwyta 90% yn fwy o ffrwythau a llysiau.
Daeth adroddiad gwerthuso annibynnol diweddar gan Elsevier ar ymchwil a gynhaliwyd gan brifysgolion Cymru i'r casgliad bod y gwaith ymchwil o safon uchel, yn effeithlon ac yn well na’r disgwyl hyd yn oed. Gobeithiwn wrth i'r ffigurau diweddar ddangos cynnydd o 37% mewn gwariant ar ymchwil a datblygu gan fusnesau Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, y bydd y porth newydd yn darparu ciplun gwerthfawr o'r gwaith ymchwil sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd ym myd academaidd Cymru.
I weld sut y mae ein prifysgolion yn gwneud cyfraniad sylweddol – ac yn aml yn dawel bach – at ddatblygu cymdeithas Cymru, ewch i'n porth yma www.researchwales.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2014