Swydd gyda’r Cyngor i Sian cyn iddi raddio
Graddiodd merch ifanc o Lŷn sydd wedi cael swydd lawn-amser gyda Chyngor Gwynedd cyn iddi ddarfod ei chwrs ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon.
Graddiodd Sian Heulwen Roberts, 21, o Aberdaron, gyda gradd 2:1 yn y Gyfraith, ac yn ddiweddar wedi cael Swydd yng Nghyngor Gwynedd, Caernarfon.
Dywedodd Sian sydd yn gyn-fyfyrwraig o Goleg Meirion Dwyfor, Pwllheli:
“Mae’n rhyfedd feddwl na fyddaf yn gweld fy nghyd fyfyrwyr a’m darlithwyr yn yr un modd eto, ond eto rwyf yn teimlo rhyddhad enfawr fy mod i wedi, o’r diwedd, cyrraedd y pen draw gyda’r radd oeddwn i wedi gobeithio amdani! Mae amser wedi mynd yn ofnadwy o gyflym felly mae’r diwrnod graddio ei hun yn mynd i deimlo’n od iawn gan mai anodd ydi credu fy mod wedi gorffen.”
Ychwanegodd Sian:
“Wrth ddechrau ystyried prifysgolion roeddwn i’n gwbl sicr mai i Brifysgol arall oeddwn i eisiau mynd i fod yn gwbl onest! Ond, ar ôl diwrnod agored ym Mhrifysgol Bangor fe newidiwyd fy meddwl yn gyfan gwbl. Roedd yr holl aelodau o staff yn gynorthwyol iawn yn ogystal â’r cyfoedion tywys mewn crysau coch o amgylch y safle. Cefais fy ngwneud i deimlo’n ofnadwy o gartrefol ac roedd yr adnoddau ar gael heb eu hail felly doedd dim amheuaeth erbyn hyn.
“Rwyf yn gwbl sicr i mi wneud y penderfyniad iawn ac fe fyddwn yn annog eraill i wneud yr un peth. Mae fy mhrofiad i yn esiampl o pan mor bwysig ydi mynychu diwrnod agored gan na fedrwch chi benderfynu gyda pherffaith sicrwydd ydi’r brifysgol am fod yn iawn i chi heb gyfarfod darlithwyr, ymweld â safleoedd y brifysgol a chael teimlad o’r safle yn bersonol.”
Yn ystod ei chwrs gradd roedd hi’n gweithio’n rhan amser ar y penwythnosau ac yn ystod yr haf mewn bwyty lleol yn cynorthwyo yn y gegin. Meddai Sian:
“Credaf fod cael swydd wrth astudio yn syniad da iawn gan iddo annog annibyniaeth a moeseg gwaith da a wneir ddechrau gwaith llawn amser ar ôl graddio yn haws.”
“Fe gefais y cyfle i fynd i adran Gyfreithiol Cyngor Gwynedd ar brofiad gwaith am ddiwrnod yr wythnos am 24 wythnos ac fe fuodd yn help mawr i mi o ran gweld sut oedd swyddfa broffesiynol yn gweithredu o ddydd i ddydd. Roedd yn brofiad heb ei ail.”
Bellach mae Sian wedi cael swydd fel Syrfëwr Ystadau Cynorthwyol yng Nghyngor Gwynedd, Caernarfon, ac yn mwynhau. Ychwanegodd Sian:
"Ers i mi ddechrau fy swydd newydd gyda’r Cyngor, rwyf hefyd wedi cael fy nerbyn ar gyfer mynychu cwrs ôl-raddedig Rheoli Eiddo Masnachol yn Lerpwl ar gyfer Mis Medi, felly rwyf yn gobeithio y caf lwyddiant ynddo.”
Cliciwch yma i wylio fideo o Sian.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2014