Sylw'r byd ar ddwyieithrwydd ym Mangor y penwythnos hwn
Bydd cant a hanner o arbenigwyr ar ddwyieithrwydd o'r DU a thramor yn cyrraedd Bangor y penwythnos hwn ar gyfer cynhadledd a drefnwyd gan Ganolfan Ddwyieithrwydd Prifysgol Bangor ar 'Rhyngweithio Dwyieithog ac Amlieithog'.
Ymhlith y siaradwyr gwadd budd ddau ymchwilydd dwyieithrwydd amlwg o Brifysgol Bangor, yr Athro Ginny Gathercole a’r Athro Guillaume Thierry. Bydd y ddau yn troi at eu hymchwil ar bobol ddwyieithog Cymraeg - Saesneg a sefyllfaoedd dwyieithrwydd eraill i ddatgelu canfyddiadau newydd cyffrous sy'n dangos sut mae'r meddwl dwyieithog yn delio gyda'r ddwy iaith. Bydd yr Athro Gathercole yn dangos sut y gall systemau ystyr gyferbyniol mewn dwy iaith yn cael ei ddangos i ddod o ofod gwybyddol cyffredin. Bydd yr Athro Thierry dangos sut y mae’n ymddangos mewn pobol ddwyieithog, bod y ddwy iaith wedi’u 'cynnau' ac yn barod hyd yn oed tra bod yn rhoi sylw i iaith benodol.
Dywedodd yr Athro Deuchar, Cyfarwyddwr y Ganolfan Dwyieithrwydd a threfnydd y gynhadledd,: "Mae'r gynhadledd hon yn gyfle gwych i ni arddangos rhai o ganfyddiadau cyffrous ein canolfan ymchwil. Yn ychwanegol at y prif areithiau gan Athrawon Bangor, bydd yna hefyd nifer o gyflwyniadau a phosteri gan staff a myfyrwyr Bangor. Mae’r rhaglen gyflawn a chrynodebau ar gael yma:
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2012