Symud o wasanaethau gofal lliniarol i blant i rai i oedolion: mae'r bwlch yn dal yn rhy fawr i bobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd i ymdopi ag ef
Yn ôl ymchwil a wnaed gan Brifysgol Bangor mae'r gwahaniaethau rhwng gwasanaethau gofal lliniarol i blant ac i oedolion yn rhy fawr i bobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd ymdopi â hwy. Wrth sôn am y darganfyddiadau mae'r ymchwilwyr yn galw ar wasanaethau gofal lliniarol i oedolion i ymestyn eu sgôp er mwyn darparu'n well at anghenion pobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd a'u teuluoedd.
Fe wnaeth y tîm ymchwil ddod â phobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd, rhieni a gweithwyr proffesiynol o wasanaethau gofal lliniarol i blant ac oedolion at ei gilydd i rannu eu profiadau o'r newid o wasanaethau plant i rai oedolion.
Yn aml nid oedd cynllunio'r symud o ofal lliniarol plant i un oedolion yn canolbwyntio ar yr unigolyn ifanc a'r hyn roeddent hwy ei eisiau neu ei angen. Nid oedd gan lawer o bobl ifanc 'weithiwr allweddol' neu rywun i'w cefnogi i drefnu'r symud, ac felly roedd yn hawdd i bobl ifanc fynd ar goll a syrthio drwy'r bylchau. Nid oedd y cynlluniau presennol yn rhoi sylw i bethau fel barn y bobl ifanc ar eu poen gyfnewidiol a rheoli symptomau, a newidiadau yn y ffordd roedd y person ifanc yn hoffi neu angen bwyta ac yfed.
Fe wnaeth pobl ifanc a rhieni dynnu sylw hefyd at y gwahaniaethau rhwng gwasanaethau gofal lliniarol i blant ac oedolion a sut yr effeithiodd hyn arnynt. Roedd pobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd yn gyfarwydd â 'chynllunio cyfochrog' lle roedd gwasanaethau gofal lliniarol i blant yn rhoi cefnogaeth holistig, o ddiagnosis ymlaen, i bobl ifanc a'u teuluoedd fedru mwynhau bywyd, yn ogystal â chynllunio ymlaen at ofal diwedd oes pan fyddai ei angen. Dywedodd pobl ifanc bod gwasanaethau gofal lliniarol holistig i'r teulu cyfan, a oedd wedi bod o fudd mawr iddynt yn ystod plentyndod, yn aml yn dod i ben wrth iddynt drosglwyddo i wasanaethau i oedolion. Roedd gwasanaethau gofal lliniarol i oedolion, ar y llaw arall, wedi'u hanelu'n fwy at gyflawni anghenion pobl hŷn yn bennaf, yn dioddef oddi wrth gyflyrau fel canser neu glefyd y galon, wrth iddynt agosáu at ddiwedd oes. Roedd gweithwyr proffesiynol gofal lliniarol i oedolion yn brofiadol iawn gyda rheoli cyflyrau fel Dystroffi Cyhyrol a symptomau cyffredin fel poen a chyfog, ond nid oeddent mor gyfarwydd â rheoli'r ystod eang o gyflyrau cymharol anghyffredin sy'n bygwth bywyd ac sydd yn dechrau yn ystod plentyndod.
Meddai'r Athro Jane Noyes o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor: 'Roedd dod â gweithwyr proffesiynol gofal lliniarol i blant ac oedolion i gyfarfod â phobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd a'u rhieni yn eithriadol werthfawr. Mae gwasanaethau gofal lliniarol i blant ac oedolion wedi datblygu ar wahân i'w gilydd gan ddarparu ar gyfer grwpiau gwahanol o bobl. Nid yw'n syndod bod gwasanaethau i oedolion yn cael trafferth i ymwneud â phobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd a ddechreuodd mewn plentyndod.'
'Mae pobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd ac anghenion gofal lliniarol yn syrthio drwy'r bylchau yn ystod y symud o wasanaethau gofal lliniarol plant i rai oedolion. Mae angen i wasanaethau gofal lliniarol i oedolion i ymestyn eu sgôp er mwyn darparu'n well at anghenion pobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd a'u teuluoedd.
Er mwyn codi ymwybyddiaeth ac i helpu i bontio'r bwlch rhwng gwasanaethau gofal lliniarol i blant ac oedolion, cynhyrchodd y tîm o Brifysgol Bangor yr adnoddau canlynol i'w defnyddio gan weithwyr proffesiynol, pobl ifanc a theuluoedd. Mae'r adnoddau ar gael am ddim a gellir eu lawrlwytho o'r lincs isod:
- Arweinlyfr a phecyn cymorth i weithwyr proffesiynol Mae'r arweinlyfr yn ymdrin â'r elfennau o ofal lliniarol a gaiff eu hanghofio'n aml yn ystod yr adeg o symud o ofal plant i oedolion, yn ogystal ag egwyddorion pwysig cynllunio a chyfathrebu sy'n canolbwyntio ar unigolion. Mae'r arweinlyfr hefyd yn disgrifio swyddogaethau gweithiwr allweddol mewn cyd-destun gofal lliniarol.
- Ffilm fer i ddangos pa mor bwysig yw cynllunio'n dda at newidiadau mewn gofal lliniarol o safbwynt pobl ifanc a'u rhieni.
- Adroddiad byr yn disgrifio'r project a darganfyddiadau allweddol.
Dywedodd Lizzie Chambers, Cyfarwyddwr Datblygu a Chyfarwyddwr Gweithredol yr ‘UK Transition Taskforce’ yn ‘Together for Short Lives’: “Mae’r ymchwil yn tynnu sylw at yr angen brys i adeiladu pontydd cryfion rhwng gwasanaethau plant ac oedolion gyda chyflyrau sy’n byrhau bywyd. Mae’r Tasglu wedi ymrwymo i wneud i hyn ddigwydd ar draws y Deyrnas Unedig fel bod pobol ifanc yn medru byw eu bywydau i’r eithaf. Rydym yn croesawu’r adnoddau hyn a fydd o gymorth i fudiadau gydweithio i ddatblygu gwasanaethau sydd â phobol ifanc yn ganolbwynt iddynt.”
Cyllidwyd yr astudiaeth 'Bridging the Gap' gan Together for Short Lives, elusen ar draws y DU sy’n cefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd sy’n byw gyda chyflyrau sy’n cyfyngu bywyd ac yn bygwth bywyd.
Mae’r ffilm, adroddiad, arweinlyfr a bocs offer ar gael drwy ddilyn y ddolen at adnoddau ar wefan Together for Short Lives neu ar wefan project Bridging the Gap
Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2014