Syniadau Mawr myfyrwyr Bangor
Mae chwe myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth genedlaethol sy’n hybu a dathlu mentergarwch ymhlith pobl ifanc, a hynny gydag amrywiaeth eang (iawn!) o syniadau busnes. Yn eu plith, busnes darparu clytiau o ddeunydd bambŵ ar gyfer babanod a menter gymdeithasol yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar greu ‘gwestai’ bach i ddraenogod!
Nod Syniadau Mawr Cymru / Big Ideas Wales yw arddangos syniadau busnes a mentergarwch pobl ifanc 16 – 25 oed a’u hybu i ddatblygu’r syniadau hynny ymhellach drwy gynnig cefnogaeth ymarferol iddynt ar gyfer llwyddo ym myd busnes. Bydd rownd derfynol Syniadau Mawr Cymru, sy’n rhaglen a sefydlwyd yn 2016 gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Bangor ar 22 Mawrth, lle bydd cyfle i’r bobl ifanc arddangos eu syniadau gerbron cynulleidfa a fydd yn llawn cynrychiolwyr o sectorau a diwydiannau amrywiol Cymru. Bydd y cyfan yn cael ei lywio gan siaradwyr sydd â phrofiad uniolgyrchol o fentro a llwyddo ym myd busnes a hwy hefyd fydd yn cyhoeddi’r enillwyr yn y noson wobrwyo. Rhoddir gwobrau unigol ar gyfer y syniadau busnes gorau a’r rhai sydd wedi cael effaith wirioneddol ar gymunedau ac ar yr amgylchedd yng Nghymru, yn ogystal â gwobrau ar gyfer ymdrechion tîm.
Gyda rhaglenni penodol wedi eu teilwra ar gyfer gwireddu syniadau busnes myfyrwyr, megis Enterprise By Design a gwaith yr uned B-Fentrus, nid yw’n syndod gweld enw chwe myfyriwr o Brifysgol Bangor ymhlith y detholion sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Syniadau Mawr Cymru eleni.
Dyma gip ar y chwe syniad sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol:
Enw: Rhiannon Williams
Oed: 21
Maes astudiaeth: Swôleg gyda Herpetoleg
Syniad busnes: Babanod Bambŵ
Mae clytiau defnydd yn dod yn fwyfwy poblogaidd o ganlyniad i bryderon pobl dros effaith clytiau tafladwy ar yr amgylchedd. Mae clytiau wedi eu gwneud o ffeibr bambŵ yn amsugno hylif ac yn atal adweithion alergeddaidd. Mae bambŵ yn amsugno carbon deuocsid yn effeithiol hefyd ac angen llai o ddŵr na nifer o blanhigion eraill wrth dyfu.
Bydd Babanod Bambŵ yn cynhyrchu clytiau gan ddefnyddio ffeibr wedi ei greu o ganlyniad i brosesu mecanyddol a bydd y bambŵ yn cael ei gaffael yn foesegol drwy gydweithio â ffermwyr a chwmnïau cynhyrchu yn Uganda, gan sicrhau ei bod yn broses gynaliadwy sy’n arddel gwerthoedd Masnach Deg.
Enw: Jenny Light-Hook
Oed: 22
Maes astudiaeth: Addysg Gynradd gya SAC
Syniad busnes: Paws and Claws Pet Service
Gwasanaeth gwarchod a cherdded anifeiliaid anwes yw Paws & Claws Pet Services, yn darparu gwasanaeth ansawdd uchel i gwsmeriaid yn ystod cyfnodau gwyliau.
Enw: Joe Kaufman
Oed: 20
Maes astudiaeth: Sŵoleg gyda Swôleg y Môr
Syniad busnes: Take The Sting Out
Creu protein supplement wedi ei wneud gyda slefren fôr (jellyfish), rhywbeth a fyddai’n cynnig ffynhonnell brotein ychwanegol yn ogystal â mynd i’r afael â’r problemau sy’n wynebu ecosystemau o ganlyniad i’r rhywogaeth yn gorboblogi.
Enw: Jemima Letts
Oed: 20
Maes astudiaeth: Coedwigaeth
Syniad busnes: Tree Sparks
Menter gymdeithasol yw Tree Sparks, sydd â’r bwriad o hybu trafodaethau ynghylch coed. Mae Tree Sparks yn dymuno cynnal sesiynau gyrfaoedd gyda phobl ifanc 15 – 19 oed er mwyn dangos iddynt y cyfleoedd a’r manteision a ddaw o weithio ym maes coedwigaeth a’r amgylchedd.
Enw: Bethany Fox
Oed: 20
Maes astudiaeth: Sŵoleg
Syniad busnes: VIP Animal Boarding
Llety VIP ar gyfer anifeiliaid o bob math, yn gŵn, cathod a chnofilod.
Enw: Alana Nicol
Oed: 21
Maes astudiaeth: Sŵoleg gyda Chadwraeth
Syniad busnes: Hedgehog Hotel
Project i hybu cadwraeth ymysg plant ifanc drwy ddarparu gweithdai ar eu cyfer sy’n rhoi cyfle iddynt adeiladau tŷ draenog. Caiff y ‘tai’ hyn eu cadw yng ngerddi’r plant neu mewn gerddi botaneg lleol.
Gan ddymuno’n dda i’r chwe myfyriwr, meddai Lowri Owen, Rheolwr Projectau Menter Prifysgol Bangor:
“Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i ddatblygu eu mentergarwch a darparu cyfloedd niferus iddynt roi hynny ar waith. Rydym yn falch iawn o gael nifer dda o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn rownd derfynol Syniadau Mawr Cymru. Maent wedi gweithio'n hynod o galed ar ddatblygu eu syniadau busnes ac rydym yn ddiolchgar i'r darlithwyr a'r mentoriaid busnes sydd wedi eu helpu ar gychwyn eu taith entrepreneuraidd.”
Ceir mwy o wybodaeth am Syniadau Mawr Cymru yma:
https://businesswales.gov.wales/bigideas/cy
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2018