Syr Dave Brailsford yn agor Canolfan Chwaraeon a enwyd i’w anrhydeddu
Bu Syr Dave Brailsford yn ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar (5 Tachwedd) i agor yn swyddogol Canolfan Brailsford, Canolfan Chwaraeon Prifysgol Bangor sydd newydd ei hadnewyddu ac a ailenwyd i anrhydeddu rheolwr y tîm seiclo llwyddiannus.
Ail-agorwyd y Ganolfan Chwarae cyn y flwyddyn academaidd hon yn dilyn buddsoddiad o £2.5 miliwn dros y flwyddyn ddiwethaf yn ail-fodelu’r ganolfan, ac mae wedi cael croeso cynnes gan y myfyrwyr a’r cyhoedd hefyd.
Mae’r cyfleusterau bellach yn cynnwys campfa newydd sbon ar ddwy lawr, llawr newydd yn y brif gampfa, stiwdio aerobig newydd, caffi newydd ac ystafelloedd newid a chawodydd sydd wedi eu newid a’u huwchraddio’n llwyr.
Roedd y project hwn yn rhan o fuddsoddiad ehangach mewn cyfleusterau chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor sydd yn cynnwys cyfleuster tennis a badminton dan do newydd sydd ynghlwm i’r Ganolfan Chwaraeon, a chae chwarae artiffisial y drydedd genhedlaeth ym maes Clwb Pêl-droed Dinas Bangor yn Nantporth, sydd bellach yn gartref i dimau'r Brifysgol a’r gymuned.
Uchafbwynt y digwyddiad i glwb seiclo’r myfyrwyr oedd cael cyfle i ofyn cwestiynau i Syr Dave Brailsford a chael awgrymiadau da i’w haelodau ynglŷn â hyfforddi!
Dyma oedd gan Syr Dave i ddweud am ei ymweliad:
"Mi gyrhaeddais a cherdded i mewn i'r Ganolfan yn ddirybudd a chael sesiwn fach yn y gym. Rwyf wedi bod i lawer o Ganolfannau Chwaraeon o amgylch y byd, ond mae 'na deimlad gwych mewn' na, mae egni gwirioneddol a gwefr iddo, mae'r cyfleusterau’n wych a dyna ydi’r gwir linyn mesur - ydio’n teimlo fel lle rydych am ddychwelyd iddo ac ymarfer yno eto? Ac ia pendant ydi’r ateb. Mae’r ffordd mae'r cyfleuster wedi cael ei ddatblygu, gan gyfuno elfennau hen a newydd, yn dipyn o gamp o ran pensaernïaeth a pheirianneg glyfar. Mae’n teimlo fel un ganolfan chwaraeon homogenaidd, ni fyddech yn gwybod bod yna rannau hŷn iddi. Mae'n teimlo’n fodern, mae'r staff yn gyfeillgar ac yn groesawgar iawn ac mae'n hynod o lân ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr."
Hyn oedd ganddo i’w ddweud am y Ganolfan Chwaraeon a enwyd i’w anrhydeddu:
"Alla i ddim credu'r peth a dweud y gwir. Rydw i wedi bod yn lwcus o gael ychydig o anrhydeddau dros y blynyddoedd, ond mae rhai ohonynt yn fwy personol ac mae hyn yn bersonol iawn ac yn rhywbeth sy'n cysylltu efo fy mywyd blaenorol. Rwyf yn teimlo'n angerddol iawn am yr ardal hon, felly rwyf o blaid unrhyw beth y gallaf ei wneud i helpu’r ardal hon neu unrhyw un sy'n dod i ymweld â'r ardal. Mae cael fy nghynnwys yma yn fy nghyffwrdd yn wirioneddol."
Ychwanegodd: "Rwy'n credu wrth dyfu i fyny yn y gymuned hon bod pawb yn sylweddoli bod gan Brifysgol Bangor rôl arbennig i'w chwarae o fewn y gymuned leol. Er gwaethaf y ffaith nad ydych yn ymwneud yn academaidd â’r Brifysgol, gallwch ddefnyddio'r cyfleusterau. Fel plant roeddem yn arfer dod yma i chwarae pêl-droed 5 bob ochr a chriced. Rydych yn teimlo, er gwaethaf y ffaith nad oeddech yn rhan o’r sefydliad academaidd, bod rhywbeth yn cael ei roi yn ôl i'r gymuned mewn cyngherddau a pherfformiadau theatrig gan y Brifysgol. Ac, o’r herwydd, roeddech chithau’n teimlo’n rhan o’r Brifysgol hefyd.”
Meddai Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon a Hamdden Prifysgol Bangor:
“Mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn rhan bwysig o ddatblygu sgiliau arwain, a gall mynd i’r gampfa yn rheolaidd sefydlu patrymau ymarfer corff iach am oes.
“Rydym yn falch bod y Ganolfan ar ei newydd wedd wedi cael derbyniad mor wresog gan y gymuned leol.
Rydym yn ymestyn ein cynnig presennol o aelodaeth clybiau a chymdeithasau am ddim i myfyrwyr i gynnwys aelodaeth am ddim o’r gampfa i’r holl fyfyrwyr sy’n byw yn neuaddau’r Brifysgol o fis Medi 2015.”
Meddai’r Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor: “Rydym yn awyddus i gynnig profiad cyffredinol gwych i’n myfyrwyr. Mae’n rhan o fuddsoddiad miliynau o bunnau gan y brifysgol i ddatblygu cyfleusterau academaidd a chymdeithasol newydd i’n myfyrwyr; gan wneud Prifysgol Bangor yn lle hyd yn oed mwy deniadol i astudio ynddi.”
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2014