Syrcas a rhythmau pres di-baid yn dod i Pontio
Ar 4 a 5 Tachwedd, bydd y cwmni syrcas o Ffrainc, Circa Tsuica, yn perfformio yng Nghymru am y tro cyntaf gyda'u sioe Opus 7, cymysgedd o acrobateg a rhythmau pres, yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Bangor. Gan roi blas lleol i'r sioe, bydd Band Jazz Tryfan yn ymuno ag wyth cerddor acrobatig Circa Tsuica ar y llwyfan.
Mae 26 cerddor y band, sydd rhwng 12 ac 16 mlwydd oed, yn gweithio gyda chyfarwyddwr cerdd Circa Tsuica, Camille Secheppet, i ddysgu repertoire y sioe o ganeuon pres Balcanaidd a jazz Americanaidd – ac yn ychwanegu eu sain Cymreig eu hunain at y gymysgedd. Byddant hefyd yn dysgu techneg Circa Tsuica o 'beintio sŵn' fel y gallant symud wrth chwarae – ond byddant yn gadael yr acrobateg i'r bobl broffesiynol!
Mae'r sioe yn awr o guriadau pres di-baid, triciau syrcas mentrus a hiwmor, lle nad yw'r perfformwyr byth yn colli nodyn, a lle mae'r gynulleidfa'n cael ymuno â'r parti.
Meddai arweinydd Band Jazz Tryfan, Owain Arwel Davies : “Mae'r project hwn gyda Circa Tsuica yn gyfle gwych i ddysgu rhywbeth newydd gan dîm ysbrydoledig o gerddorion a pherfformwyr ac rydym i gyd wedi'n cyffroi. Yn dilyn ein gweithdy cyntaf gyda'r cwmni, rydym yn credu ein bod yn ddechrau ar rywbeth arbennig iawn."
Mae Opus 7 yn rhan o Circus Evolution, cynllun teithio strategol a grëwyd er mwyn sicrhau bod mwy o waith syrcas gyfoes o ansawdd uchel yn cyrraedd amrywiaeth ehangach o bobl ar draws Cymru a Lloegr.
Meddai Rachel Clare, sy'n arwain y project: "Mae Opus 7 yn cynnig hiwmor a sioe, a sgiliau acrobatig a cherddorol. Efallai mai'r peth mwyaf cyffrous yw ei fod yn rhoi cyfle i gerddorion lleol weithio gydag artistiaid o Ffrainc i ysbrydoli eu gallu cerddorol a pherfformio gyda nhw mewn rhai o'r lleoliadau rhanbarthol mwyaf amlwg yn y wlad, gan gynnwys adeilad newydd hyfryd Pontio ym Mhrifysgol Bangor.”
Bydd band pres arall o Fangor, project adfywio cymunedol Codi'r To, yn perfformio yn y cyntedd cyn y sioe.
Nos Wener 4 Tachwedd am 7.30pm a phrynhawn Sadwrn 5 Tachwedd am 2pm
Theatr Bryn Terfel
Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor, Gwynedd LL57 2TQ
Swyddfa docynnau: 01248 38 28 28
Tocynnau: £12 (£10 gostyngiadau); £40 Tocyn Teulu
(grŵp o 4 o bobl, yn cynnwys o leiaf un o dan 18 mlwydd oed)
Sesiwn holi ac ateb am ddim ar ôl y sioe ar 4 Tachwedd
www.pontio.co.uk
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2016