System gyfrifiadurol yn disodli’r hen bib ar gopa’r Wyddfa
Cyn i Hafod Eryri, y ganolfan gyffrous newydd i ymwelwyr ar gopa mynydd uchaf Cymru, agor ei drysau, arferai’r Gorsaf-feistr gyhoeddi bod y trên ar fin cychwyn drwy chwythu ei bib. Nid oedd hyn yn cyd-fynd rhywsut â’r datblygiad newydd gyda holl gyfleusterau’r unfed ganrif ar hugain, ac felly fe wnaeth cwmni Rheilffordd Yr Wyddfa droi at Brifysgol Bangor am gymorth.
Y canlyniad fu gosod system gyhoeddi newydd, gwbl awtomatig, ar gyfer Hafod Eryri. Mae’r system hon yn gweithio’n gyfan gwbl erbyn hyn ac wedi dod yn hanfodol ar gyfer rhedeg yr orsaf ar y copa o ddydd i ddydd.
Mae’r system gyhoeddi’n sicrhau fod pobl sydd i fod i fynd ar drenau neilltuol yn cael gwybod pan mae’r trên ar fin cychwyn. Mae gan y system gyhoeddiadau wedi’u recordio ymlaen llaw, y gellir eu gweithredu drwy bwyso botwm ar ddechrau pob dydd, yn dibynnu ar amserlen y trenau ar y diwrnod dan sylw.
Mae’r tywydd cyfnewidiol yn y mynyddoedd yn golygu bod trenau’n cael eu gohirio’n aml, neu hyd yn oed eu canslo, felly gall system faniwal ddisodli’r system awtomatig dros dro er mwyn cymryd hyn i ystyriaeth.
Dechreuodd y project hwn fel ‘Software Hut’, modiwl Cyfrifiadureg ail flwyddyn sy’n rhoi profiad i fyfyrwyr o weithio fel rhan o dîm i gyflawni project ar gyfer client. Mae’r Ysgol Cyfrifiadureg yn paru israddedigion ail flwyddyn â chwmnïau lleol sydd angen meddalwedd i wella eu busnes. Rhoddwyd y project yma i ddau fyfyriwr, Chris West a Steven Postlethwaite.
Cafodd y project Software Hut gymaint o groeso gan gwmni Rheilffordd Yr Wyddfa fel eu bod eisiau parhau i’w ddatblygu ar ôl i’r modiwl ei hun ddod i ben. Trwy ‘GO Wales’, cynllun i gysylltu myfyrwyr â chyflogwyr, aeth Chris ar leoliad gwaith cyflogedig 10 wythnos dros yr haf. Erbyn diwedd y lleoliad, roedd y cynnyrch terfynol wedi’i osod, y staff wedi’u hyfforddi a’r system wedi’i phrofi. Gosodwyd y caledwedd a’r gwaith weirio gan MAD Sound and Lighting, a oedd wedi cydweithio’n agos â Chris. Eglurodd Arwel Hughes o MAD Sound and Lighting: “Ar ôl bod yn gweithio yn yr ardal am lawer o flynyddoedd a theithio i fyny’r Wyddfa lawer gwaith, roedd yn anrhydedd mawr i ni gael gosod yr offer yn Hafod Eryri. Gan ei fod yn adeilad mor hardd, fe wnaethom weithio’n galed i guddio cymaint o’r offer â phosib a sicrhau’r un pryd ein bod yn defnyddio’r deunyddiau gorau er mwyn i’r system gael hir oes gyda chyn lleied â phosib o waith cynnal a chadw arni. Gan gydweithio'n agos â Chris a’r tîm, fe wnaethom fedru gosod y system gan darfu cyn lleied â phosib ar waith beunyddiol Hafod Eryri yn ystod cyfnod prysuraf yr haf.”
Meddai Chris West: “Gweithio ar broject proffesiynol fel hyn ydi’r profiad gorau mewn rhaglennu dw i erioed wedi’i gael. Mae gallu addasu eich sgiliau academaidd i amgylchedd diwydiannol yn rhywbeth y dylai pob myfyriwr ei wneud yn ystod eu hastudiaethau. Roedd yn deimlad rhyfeddol gallu cyflawni’r union beth roedd ar y client ei angen a dwi’n hynod falch fy mod i wedi bod yn rhan o’r project yma.”
“Rydan ni wrth ein bodd efo’r system gyhoeddi newydd yma a’r ffordd y gwnaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a GO Wales weithio gyda ni i gyflawni’r project. Mae arbenigedd y myfyrwyr Cyfrifiadureg yn rhyfeddol. Nid yn unig fe lwyddodd Chris i ddelio efo ochr raglennu’r project, roedd o hefyd yn gallu egluro wrth y defnyddwyr sut roedd y system yn gweithio a hynny mewn ffordd hawdd i ni ei deall ” meddai Doug Blair, Uwch Reolwr Peirianneg Cwmni Rheilffordd Yr Wyddfa. “Rydym ni wedi defnyddio sgiliau Chris hefyd i wireddu rhai syniadau eraill sy’n ein helpu i sicrhau bod Hafod Eryri yn gweithredu’n hwylus.”
Treuliodd Chris West gyfnod yn y Fyddin gyda’r 7th Royal Horse Artillery gan deithio ar hyd a lled y byd. Wedyn bu’n gweithio i Allied Carpets am 7 mlynedd cyn penderfynu newid gyrfa’n llwyr a dod i Fangor i astudio Cyfrifiadureg.
Eglurodd Elinor Churchill o GO Wales: “Trwy gynllun lleoliadau GO Wales roedd Chris yn gallu dod â ffordd ffres o edrych ar bethau i’r gweithle a sgiliau newydd i roi syniadau arloesol ar waith. Mae llwyddiant Chris yn dangos yn glir gyfraniad gwerthfawr myfyrwyr a graddedigion yn y gweithle, yn ogystal â’r manteision a geir wrth i gwmnïau a phrifysgolion gydweithio.”
Manylion gyswllt Go Wales:
01248 383586 / gowales@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2010