Tad a llys-ferch yn ennill gwobrau yn ŵyl ffilmiau Cymru.
Enillodd y ffilm fer Not, a gyfarwyddwyd gan John Bryan Evans, myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor a cyn disgybl yn Ysgol Friars, wobr ffilm iaith Gymraeg orau yn Ffresh, gŵyl ddelwedd symudol myfyrwyr Cymru, gyda’i lysferch hefyd yn ennill y wobr Actores Orau.
Mae'n ffilm ddeuddeg munud am Nia, mam ifanc mewn perthynas dreisiol gyda’i dwy ferch ifanc yn tyfu i fyny yn gwylio eu mam yn cael ei churo a'i bwlio. Adroddir y stori drwy lygaid y plant ac fe’i disgrifiwyd fel 'golwg diflewyn ar dafod ar ormes yn y cartref.'
Fe enillodd, Long I Stood There, wedi ei chyfarwyddo gan John Evans a Mat Owen, wobr gan Gymdeithas Teledu Frenhinol Cymru am y ffilm ffuglen orau hefyd.
Ar hyn o bryd mae John, 32, o Fangor, yn astudio MA mewn gwneud ffilmiau ar ôl cael gradd BA mewn Astudiaethau Ffilm yma yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau. Mae ei lys-ferch, Ceri, 11, a oedd yn 9 pan gafodd ei ffilmio, yn ddisgybl yn Ysgol Tregarth ger Bangor.
Meddai: "Mae yn anhygoel fod Not wedi ennill dwy wobr. Wrth gwrs, roedd yn wych cael gwobr bersonol ond gweld Ceri yn ennill y wobr am yr actores orau oedd yr uchafbwynt y noson.
“Mae’r ffaith fod Not wedi cael ei enwebu a chael yr ail wobr gan Gymdeithas Teledu Frenhinol Cymru ac yna ffilm arall gen i, Long I stood there, yn ennill gwobr yn syndod mawr. Roedd yn dipyn o sioc.
“Mae pawb o fewn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau wedi bod yn gefnogol iawn ac maent yn haeddu’r clod gymaint â minnau.
“Mae Not yn ffilm anodd ei gwylio ac ar adegau roedd hi'n anodd ei hysgrifennu a'i ffilmio. Mae gan ffilmiau Prydain draddodiad hir a llwyddiannus o gynhyrchu dramâu cymdeithasol cignoeth. Felly ysbrydolwyd arddull y ffilm gan yr etheg hon gan ddilyn y traddodiad hwnnw. "Rwy'n teimlo'n agos iawn at y ffilm hon, mae'n cliché ond mae fel pe bai'n blentyn i mi. Rwy’n amddiffynnol iawn o'r ffilm ac ar yr un pryd yn falch iawn o'r hyn rydym wedi llwyddo i'w gynhyrchu. Roedd y criw yn wych a'r cast yn anhygoel, yn arbennig o ystyried ei fod yn bwnc mor anodd.”
Dywedodd Joanna Wright, darlithydd yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor: “Rydym yn falch iawn o lwyddiant ein myfyrwyr yng Ngwyl Ffresh yn Wrecsam yn ddiweddar. Mae yn ganlyniad gwych i gynhyrchiad ffilm is-raddedig, a oedd yn cystadlu yn erbyn myfyrwyr ôl-radd ar draws Gymru. Mae yn destament i’n cyrsiau cynhyrchu ffilm is-raddedig fod yna gymaint o’r myfyrwyr wedi penderfyny aros yma i astudio cwrs MA mewn gwnued ffilmiau. Rydym yn edrych ymlaen i gystadlu eto’r flwyddyn nesaf.”
Mae'r digwyddiad Ffresh yn dangos a dathlu gwaith myfyrwyr sydd ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer graddau delweddau symudol yng Nghymru ac yn eu hysbrydoli. Cyhoeddwyd enwau'r enillwyr mewn digwyddiad ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam rhwng 20 a 22 Chwefror 2013.
Dyma a ddywedodd y beirniaid am y ffilm: "Caiff y stori ei hadrodd yn hyfryd, yn glir ac yn gryf gyda gwaith golygu ysbrydoledig yn ystod y trais yn y cartref a llwyddodd y cyfarwyddwr i gael rhai perfformiadau anhygoel gan blant ifanc iawn. Roedd y darn hwn o waith yn dangos aeddfedrwydd. Roedd y cyfarwyddo a'r golygu yn fedrus ac yn effeithiol. Llwyddodd y cyfarwyddwr i gael perfformiadau anhygoel a naturiol gan y ddau blentyn ifanc, sy'n ddawn. Roedd y sain yn dangos ôl meddwl ac yn effeithiol iawn. Roedd holl arddull y darn yn gwbl addas ar gyfer y pwnc."
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2013