Taflu deis i ddangos nifer y moch daear a laddir yn anghyfreithlon
Yn ôl ymchwil newydd, gall dull anghyffredin o amcangyfrif faint o bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau sensitif neu anghyfreithlon roi gwybodaeth bwysig i lunwyr polisi amgylcheddol yn Lloegr sy'n gysylltiedig â'r cynllun difa moch daear arfaethedig yn y DU .
Mae papur a ysgrifennwyd gan dîm ymchwil o Brifysgol Bangor, Prifysgol Kent a Phrifysgol Kingston (Innovative Techniques for estimating illegal activities in a human-wildlife-management conflict) wedi dangos yr amcangyfrif cyntaf erioed o nifer y moch daear a gânt eu lladd yn anghyfreithlon.
Gan ddefnyddio dull ymateb ar hap (RRT), mae'r ymchwil a gyhoeddir heddiw yn PLOS ONE, yn dangos bod dros 10% o ffermwyr da byw yng Nghymru wedi lladd moch daear yn anghyfreithlon yn y flwyddyn cyn yr astudiaeth.
Nid yw ymchwil blaenorol wedi rhoi digon o ystyriaeth i'r cwestiwn a yw lladd moch daear yn anghyfreithlon yn cyfrannu at ledaenu twbercwlosis gwartheg i dda byw.
Mae'r tîm yn awgrymu y byddai'n ddiddorol modelu sut y gallai lladd cymaint o foch daear yn anghyfreithlon gyfrannu at ledaenu twbercwlosis gwartheg (bTB) yn arbennig gan fod symudiadau moch daear yn cael eu heffeithio pan amherir ar grwpiau cymdeithasol.
Eglurodd Dr Paul Cross, o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor, 'Dylai'r gyfran o ffermwyr yr amcangyfrifir eu bod wedi lladd moch daear gael ei hystyried gan lunwyr polisïau ac yn y ddadl ehangach'.
'Mae difa moch daear ar raddfa fawr yn un dull sy'n cael ei ystyried gan lunwyr polisïau, er mwyn rheoli lledaeniad twbercwlosis mewn gwartheg. Ond nid yw astudiaethau sy'n ymchwilio i effeithiau difa moch daear ar achosion o twbercwlosis mewn gwartheg wedi cynnwys nifer y moch daear a laddir yn anghyfreithlon a'r posibilrwydd y gall hynny ledaenu'r clefyd'.
Meddai Dr Freya St John o Durrell Institute of Conservation and Ecology, Prifysgol Kent, "Er mwyn ceisio datrys y problemau sy’n gysylltiedig â moch daear a thwbercwlosis gwartheg mae'n rhaid cael ymchwil gwyddonol ar draws disgyblaethau, symud oddi wrth safbwyntiau dwfn a chael yr ewyllys gwleidyddol i weithredu rheolaeth ar sail tystiolaeth. Credwn fod yr astudiaeth hon yn gyfraniad pwysig at y ddadl honno'.
Mae'r dull ymateb ar hap yn golygu bod ymatebwyr yn taflu dau ddeis cyn ateb cwestiynau sensitif fel 'a ydych wedi lladd mochyn daear yn y flwyddyn diwethaf'. Nid yw canlyniad taflu’r deis yn cael ei ddatgelu i'r ymchwilwyr, mae'r ymatebwyr yn ei gadw'n gyfrinach. Yr hyn sy'n bwysig yw bod cyfarwyddiadau yn gysylltiedig â thaflu deis, er enghraifft, os yw cyfanswm y deis rhwng pump a deg, dylent ateb yn onest; os ydynt yn cael cyfanswm rhwng 2 – 4 dylent roi'r ateb ‘ydw’; ac os yw'r cyfanswm yn 11 neu 12 dylent ateb ‘nac ydw’. Swyddogaeth yr atebion a 'orfodir' yw eu bod yn ychwanegu ‘sŵn’ at y data fel nad yw'r ateb 'ydw' o reidrwydd yn golygu bod yr ymatebydd wedi gwneud rhywbeth anghyfreithlon.
I weld y papur ymchwil yn ei gyfanrwydd ewch i: http://dx.plos.org/10.1371/journal.pone.0053681
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2013