Tair Ysgoloriaeth ar gyfer cwrs newydd
Am y tair blynedd nesaf, bydd cwmni sy’n darparu offer swyddfa i Brifysgol Bangor yn gwobrwyo un o fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg gydag ysgoloriaeth ar gyfer cwrs gradd newydd sbon.
Mae cefnogaeth cwmni Lyreco yn arwydd fod y radd ‘Cymraeg Proffesiynol’ yn un sy’n cwrdd â gofynion byd gwaith am bobl sy’n gallu defnyddio’r iaith mewn amrywiaeth eang o feysydd, o swyddfeydd i’r byd gwleidyddol.
Ym mis Medi eleni y bydd y cwrs yn dechrau, gan fanteisio ar arbenigedd staff Canolfan Bedwyr mewn cynllunio iaith ac yn y datblygiadau technolegol a allai weddnewid defnydd o’r Gymraeg ym myd gwaith.
“Mae’r modiwlau’n cynnwys cynllunio ieithyddol ac ‘o’r Senedd i’r swyddfa’, sy’n canolbwyntio ar ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r Gymraeg,” meddai pennaeth adran y Gymraeg, yr Athro Gerwyn Wiliams.
Mi fydd y cwrs yn cynnwys elfen gref o leoliad gwaith gyda chyrff a chwmnïau sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd ac, yn eu trydedd flwyddyn, mi fydd y myfyrwyr yn cyflwyno project ar bwnc o’i dewis nhw.
“Rydan ni’n falch iawn fod Lyreco wedi dewis cynnig yr ysgoloriaeth yma,” meddai Gerwyn Wiliams. “Mae’n arwydd o’u perthynas nhw efo’r Brifysgol ac o bwysigrwydd cwrs newydd fel hwn sydd â phwyslais galwedigaethol.
“Mae yna lawer o wahanol ysgoloriaethau ar gael i helpu myfyrwyr ddod i Ysgol y Gymraeg ond mae hwn yn benodol ar gyfer maes sy’n dod yn fwy a mwy pwysig o hyd.”
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2018