‘Taith i’r Gorffennol’ yn rhoi gwedd wahanol ar Gymru i dwristiaid cyfoes
Lansiwyd gwefan newydd sy’n cynnig gwedd anghyffredin ar Gymru gan dwristiaid y gorffennol o’r Almaen a Ffrainc ym Mhrifysgol Bangor heddiw (Iau 24 Mai).
Bu'r Arglwydd Elis-Thomas, Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Llywodraeth Cymru yn bresennol i weld y wefan newydd (http://footsteps.bangor.ac.uk/cy/index.,) sef ffrwyth project ymchwil a arweinir gan Brifysgol Bangor ac sy’n cynnwys Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltiadd Prifysgol Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Croeso Cymru. Derbyniwyd y cyllid hwn ar gyfer gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).
Meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, am y wefan newydd:
“Mae’r wefan yn defnyddio’r cyfryngau digidol diweddaraf i greu adnodd hynod ddiddorol sydd yn cyfoethogi ein dealltwriaeth ohonom ni ein hunain a’n hanes yn ogystal â darparu gogwydd hanesyddol ychwanegol i’r rhai sy’n ymweld â Chymru. Rwy’n falch o weld fod hyn oll yn ganlyniad cyfuno arbenigeddau academaidd, wrth ymchwilio’r cofnodion hanesyddol gan ymwelwyr i Gymru gyda’r cyfoeth o adnoddau diwylliannol sydd ar gael i ni.
Nod y wefan ydi caniatáu i bobl deithio yng Nghymru yn ôl troed teithwyr hanesyddol o Ffrainc a’r Almaen, boed nhw’n ymwelwyr cyfoes o’r Almaen neu Ffrainc, neu yn dwristiaid cartref sydd am weld Cymru trwy lygaid Ffrengig / Almaenig. Mae ar gael mewn pedair iaith - Saesneg, Cymraeg, Ffrangeg ac Almaeneg - i dwristiaid digidol ym mhobman. Mae’r tîm wedi dethol disgrifiadau trawiadol o Gymru o’r taithlyfrau Ffrangeg ac Almaeneg, wedi eu cyfieithu i’r Gymraeg a’r Saesneg, a’u trefnu yn naw taith thematig trwy Gymru. Themâu fel: Llechi, Tirwedd, Cestyll, Yr arfordir. Wrth glicio ar leoliad neu atyniad arbennig yn y teithiau, byddwch yn dod o hyd i wybodaeth am y lle yn y bedair iaith, oriel o luniau a deunydd digidol (fel sganiau 360 gradd, animeiddiadau), yn ogystal â’r disgrifiadau dethol o’r taithlyfrau gwreiddiol.
Meddai’r Athro Carol Tully, o’r Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern, a fu’n arwain y project cyfan:
“Rydym yn gobeithio’n fawr y bydd yr adnoddau hyn yn rhoi persbectif newydd i ymwelwyr o Gymru a thwristiaid o Brydain, drwy gynnig argraffiadau ymwelwyr o’r gorffennol a fu’n edrych ar Gymru o bersbectif Ewropeaidd.
Mae’r project cyfan wedi ein harwain ar hyd llwybrau cyfoethog dros ben ac rydym wedi darganfod llawer mwy o ddeunydd nag yr oeddem yn ei ddisgwyl. Mae’r wefan i dwristiaid yn fonws ychwanegol, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymwneud â’r project cyfan.”
Mae rhai lleoedd wedi cael sylw arbennig, er enghraifft comisiynwyd ffilm ar Ferthyr Tudful, ar sail y taithlyfrau gwreiddiol, sydd ar gael yn bedairieithog yma: https://www.youtube.com/watch?v=GinAhRz8yjU – felly mae hefyd yn adnodd ar gyfer athrawon ieithoedd modern Cymru, i gefnogi’r ‘Cwricwlwm Cymreig’ yn eu gwersi Ffrangeg ac Almaeneg. Un arall yw Abaty Tyndyrn: comisiynwyd profiad rhithwir newydd sbon o’r abaty ar sail y disgrifiadau gwreiddiol.
Mae Taith i'r Gorffennol yn rhoi golwg newydd ar hanes a diwylliant Cymru drwy gyfuno ffynonellau hanesyddol gyda thechnolegau newydd. Mae ymchwilwyr y prosiect 'Teithwyr Ewropeaidd' wedi cyfuno eu harbenigedd ar hanes ysgrifennu taith mewn ieithoedd modern Ewropeaidd gydag adnoddau archif y Comisiwn Brenhinol ynghylch hanes ac amgylchedd adeiledig Cymru.
Fel rhan o'r cydweithrediad hwn, mae tîm Taith i'r Gorffennol wedi creu cyfieithiadau newydd o ddisgrifiadau teithio hanesyddol mewn Ffrangeg ac Almaeneg, ac wedi comisiynu'r gwaith o ddigideiddio deunydd a gedwir yng nghasgliadau ac archifau arbennig y Comisiwn Brenhinol. Yn ogystal, mae'r tîm wedi cynhyrchu adnoddau digidol newydd, megis teithiau 360°-Gigapixel a fideos ar gyfer lleoliadau dethol ar draws Cymru. Ceir adluniadau digidol newydd o drefi ac adeiladau, fideo yn dangos treftadaeth ddiwydiannol Merthyr Tudful (a gynhyrchwyd gan Treehouse Media) a phrofiad rhithwir o Abaty Tyndyrn yn ystod y cyfnod Rhamantaidd (a gynhyrchwyd gan Luminous) yn cwblhau'r profiad Taith i'r Gorffennol.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2018