Taith i’r Unol Daleithiau i sŵolegwyr Bangor
Mae grŵp o fyfyrwyr o ogledd Cymru wedi dychwelyd o daith ymchwil lle buont yn cerdded trwy gorsydd, yn canŵio trwy fangrofau ac yn nofio dros riffiau cwrel.
Fel rhan o’u graddau sŵoleg, treuliodd myfyrwyr o Brifysgol Bangor wythnos yn y Bytholwerni yn Fflorida yn astudio bywyd gwyllt unigryw'r ardal.
Teithiodd y grŵp ar hyd a lled Fflorida yn ymweld ag amrywiol gynefinoedd a phrojectau cadwraeth.
Yr Athro George Turner, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor, drefnodd y daith i’r Unol Daleithiau ar y cyd â chydweithwyr o’r Florida Gulf Coast University.
“Ymhell o’r holl atyniadau i dwristiaid, mae Fflorida yn le gwych i unrhyw un sy’n ymddiddori mewn bywyd gwyllt a’r byd naturiol,” meddai’r Athro Turner.
“Cafodd y myfyrwyr weld anifeiliaid mwyaf enwog yr ardal megis aligatoriaid, dolffiniaid, morfuchod ac eryrod penfoel.
“ac yn bwysicach na hynny, cawsant hefyd weld rhai o’r anifeiliaid llai a mwy swil ac astudio eu cynefinoedd hwy.
“Byddai unrhyw sŵolegydd yn cael ei gyfareddu gan amrywiaeth ac addasiadau'r bywyd gwyllt yn Fflorida,” meddai.
“Roedd y daith yn arbennig o gofiadwy gan ein bod wedi cael cyfle i gynorthwyo gyda phroject modrwyo adar, cerdded mewn dŵr at ein canol trwy gors o goed cypreswydd a snorcelio dros riff cwrel.”
“Mae’n wir dweud mai dyma un o’r uchafbwyntiau i fyfyrwyr sy’n astudio am radd sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor ac rwy’n siŵr y bydd taith y flwyddyn nesaf llawn cystal,” dywedodd yr Athro Turner.
Dywedodd Sally Roberts, oedd yn un o’r 22 myfyriwr ar y daith, mai honno oedd un o wythnosau gorau ei bywyd.
“Roedd yn wych, rwy’n methu credu ein bod wedi gallu gwneud cymaint mewn wythnos,” dywedodd.
“Un o fy hoff rannau oedd canŵio trwy’r mangrofau gan eich bod yn gallu mynd mor agos at y bywyd gwyllt - ar ôl i mi ddysgu sut i beidio â throi’r canŵ drosodd wrth gwrs,” dywedodd y ferch 20 oed o Wrecsam yn gellweirus.
Os hoffech ragor o wybodaeth am astudio am radd sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor, ewch i www.bangor.ac.uk/biology <http://www.bangor.ac.uk/biology> neu ffoniwch 01248 382527.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2010