Taith weledol arloesol a diddorol drwy batrymau’r meddwl wrth i ni symud…
Beth sy’n dal eich sylw pan fyddwch yn gwylio dawnsiwr ar lwyfan? Gwisg, coreograffi, sgiliau technegol y dawnsiwr? Mae’r dawnsiwr cyfoes adnabyddus Riley Watts a Dr.Emily Cross, sy’n niwro-wyddonydd ym Mhrifysgol Bangor, yn dangos bod yna ffactorau llai amlwg yn dylanwadu ar ein canfyddiadau.
Mae’r darn arloesol hwn o waith ymchwil, a’r perfformiad sy’n mynd law yn llaw ag ef, yn dangos beth sy’n digwydd yn yr ymennydd pan fyddwn ni’n gwylio symudiadau cymhleth. Fe fyddwch yn siŵr o gael eich rhyfeddu…
- Dyddiad:21/11/2012
- Amser: 07:30 PM
- Lleoliad:Neuadd Fwyta Reichel, Prifysgol Bangor
- Tocynnau: £5/£3.50 gostyngiadau
- Ffôn: 01248 382828, ymwelwch â Palas Print Pendref neu archebwch arlein: www.pontio.co.uk
http://www.pontio.co.uk/whats-on/full-event.php.cy?nid=9959&tnid=9959
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2012