Technoleg Cyfieithu yn Helpu Diwydiant Cymru
Gall technoleg cyfieithu helpu diwydiant yng Nghymru i gyrraedd marchnadoedd newydd ac ar yr un pryd gynorhtwyo i gynnal a datblygu cymunedau dwyieithog Cymru.
Bydd cynhadledd ar y cyd rhwng prifysgolion Abertawe a Bangor, a gynhelir ym Mhrifysgol Bangor ar 14 Ionawr 2011, yn arddangos y datblygiadau diweddaraf ym maes technolegau iaith a lleferydd.
Dywedodd Delyth Prys, pennaeth yr Uned Technolegau Iaith yng nghanolfan Bedwyr y Brifysgol, a threfnydd y gynhadledd:
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda nifer o gwmnïau bach a chanolig eu maint yn Nghymru sy’n awyddus iawn i ddysgu sut mae gwneud gwell defnydd o dechnoleg yn medru eu helpu i gyfieithu yn well, yn gynt ac yn rhatach. Mae’r gynhadledd hon yn arddangos nifer o’n projectau llwyddiannus diweddar.
“Ar gyfer y gynhadledd rydym wedi casglu at ei gilydd nifer o adnoddau allweddol mewn casgliad o raglenni fydd yn cael eu dosbarthu am ddim i gynadleddwyr ar gofion bach. Y syniad yw y bydd mynychwyr y gynhadledd yn gallu treialu’r dechnoleg drostynt eu hunain a gweld faint o amser ac arian sy’n medru cael ei arbed.
“Rydym hefyd yn falch iawn o fedru dangos cynifer o brojectau myfyrwyr yn y gynhadledd. Mae gan brifysgolion Bangor ac Abertawe gyrsiau astudiaethau cyfieithu MA sy’n gryf mewn technoleg, ac mae gennym nifer o ysgoloriaethau sy’n cael eu noddi gan ddiwydiant i gryfhau cydweithio rhwng academia a diwydiant.”
Agorir y gynhadledd gan y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, a ddywedodd:
“Mae hon yn sefyllfa lle mae Cymru ar ei hennill mewn dwy ffordd. Rydym yn datblygu arbenigedd yn y diwydiant cyfieithu, yn gyntaf er mwyn gwasanaethu anghenion Cymru ddwyieithog, ond rydym hefyd yn gweld manteision a buddiannau gweithgareddau ymchwil a meddalwedd newydd lle mae’r effeithiau yn llawer ehangach. Mae llawer o’r gwaith hwn wedi’i ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ac rydym yn falch iawn fod gan yr Adran Dreftadaeth ac Adran yr Economi ran i chwarae yn hyn, fel sydd gan yr Adran Addysg, er mwyn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr ac ymarferwyr.”
Bydd Alun Ffred Jones yn cael ei groesawu i Brifysgol Bangor gan Wyn Thomas, dirprwy is-ganghellor newydd y brifysgol gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg a Chysylltiadau Cymunedol. Dywedodd Wyn Thomas “Mae ymchwil a chyfnewid gwybodaeth gyda diwydiant yn bwysig iawn i’n prifysgol ni. Rydym yn falch iawn o gyfraniad Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr i broffil ymchwil y brifysgol a’i rhan yn helpu cefnogi cymunedau dwyieithog ac economi Cymru. Rydym hefyd yn falch iawn o weld cymaint o gyfleoedd cyflogaeth dda i’r myfyrwyr ar ein cyrsiau cyfieithu a chyrsiau ôl-raddedig eraill. Mae sgiliau dwyieithog da a dealltwriaeth o dechnoleg ddwyieithog yn rhoi manteision pendant i’n myfyrwyr wrth iddynt chwilio am swyddi. Mae’r gynhadledd hon yn gyfle gwych i ddwyn ynghyd ymchwilwyr, myfyrwyr a busnesau ym maes Technoleg Cyfieithu er budd pawb.”
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2011