Technoleg newydd yn obaith newydd i’r economi werdd
Mae Prifysgol Bangor yn bartner mewn rhaglen gwerth £20 miliwn fydd yn rhoi hwb i’r economi werdd trwy helpu busnesau yn y Gorllewin a’r Cymoedd i ddatblygu technolegau newydd i droi cnydau lleol yn gynnyrch masnachol. Cyhoeddwyd y newyddion heddiw yn y Senedd (Dydd Mawrth, 15 Chwefror), gan y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones AC.
O dan arweiniad Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mewn cydweithrediad â’i bartneriaid ym Mhrifysgolion Bangor ac Abertawe, bydd y fenter BEACON yn defnyddio techneg flaengar o’r enw “bioburo” i helpu cwmnïau o Gymru i ddatblygu ffyrdd newydd rhad-ar-garbon i wneud cynhyrchion sydd wedi bod yn cael eu gwneud o olew.
Amcan BEACON, gyda chefnogaeth £10.6 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yw gwneud Cymru’n Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer technolegau Bioburo a gwneud cyfraniad pwysig at arafu’r newid yn yr hinsawdd. Bydd yn gweithio gyda chwmnïau i droi cnydau fel rhygwellt, ceirch ac artisiôcs yn gynnyrch fel deunydd fferyllol, cemegolion, tanwydd, coluron a thecstilau.
Meddai Mr Jones, sydd hefyd yn Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth: “Rydym wedi ymrwymo i feithrin arbenigeddau ein Prifysgolion a’n diwydiannau i ddatblygu technolegau a chynnyrch newydd i’n gwneud yn fwy cystadleuol ac i ddiogelu lle i Gymru ar lwyfan ryngwladol.
“Elfen ganolog o Adnewyddu’r Economi yw defnyddio Ymchwil a Datblygu i symbylu arloesedd er mwyn gallu cynhyrchu mwy, helpu’r economi i dyfu a gwneud y rhanbarth yn fwy ffyniannus.”
Bydd Prifysgol Bangor yn datblygu ei gwaith ar greu deunydd newydd o blanhigion gyda golwg ar ddatblygu cynnyrch newydd, hyn ar ôl darganfod yn ddiweddar bod modd defnyddio cyfansoddion o rai planhigion lleol i reoli problemau fel clwy’r tatws.
Meddai’r Athro David Shepherd, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil a Menter ym Mhrifysgol Bangor:
“Mae gan Fangor hanes hir a llwyddiannus o gynnal gwaith ymchwil ar y cyd â chwmnïau i chwilio am ddibenion gwahanol a newydd i blanhigion sy’n gallu cael eu tyfu yn yr ardal. Rydym yn croesawu’r cyfle hwn i estyn y gwaith hwnnw fel rhan o’r fenter newydd hon a gwella’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig i fusnesau Cymreig i fabwysiadu a manteisio ar dechnolegau isel eu carbon. Un enghraifft yn unig o’n gwaith mewn un maes ar draws amrywiaeth eang o ddiwydiannau yw’n gwaith gyda’r cwmni lleol Phytovation.”
Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn gweithio gyda Phytovation – cwmni o Gaernarfon – i ddatblygu technolegau newydd sy’n defnyddio planhigion i gynhyrchu deunydd fferyllol.
Mae’r cydweithio hwn wedi arwain at greu cynnyrch newydd fel powdr Senna sy’n cael ei ddefnyddio i wneud lacsatifau effeithlon sydd wedi’u gwneud o blanhigion allai yn y pen draw gael eu tyfu yn y Gogledd.
O ganlyniad, mae Phytovation wedi ennill tystysgrif Good Manufacturing Practice (GMP) gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) a fydd yn eu gwneud yn fwy deniadol fel cynhyrchydd ac yn gwella eu cyfle i ennyn busnes o dramor.
Meddai Andy Beggin o Phytovation: “Rydym yn gwerthfawrogi ein partneriaeth â’r Brifysgol yn fawr a’n gobaith yw y gwnaiff yr arian hwn sbarduno busnesau fel ni i wneud mwy o elw a rhoi hwb i economi Cymru. Rydym yn disgwyl ymlaen yn fawr at weithio gyda’r brifysgol yn y dyfodol, hynny er ein lles ein gilydd.”
Manteision bioburo i Gymru:
- Yn lle cemegolion diwydiannol o olew, defnyddio moleciwlau tebyg o blanhigion i gyflenwi marchnadoedd sydd o fewn cyrraedd rhwydd i gynhyrchwyr o Gymru gyda gobaith creu elw mawr.
- Trwy droi cnydau fel Rhygwellt, Miscanthus, Ceirch ac Artisiôcs yn danwyddau a chemegolion gwerthfawr, lleihau nwyon tŷ gwydr, diogelu cyflenwadau tanwydd a chemegolion ac ychwanegu at werth economi Cymru.
- Mae cemegolion sy’n dod o blanhigion yn gallu cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys trafnidiaeth, bwyd, iechyd, hylendid a’r amgylchedd.
- Maen nhw’n cynnwys deunyddiau newydd sy’n cael eu galw’n fiogyfansoddion a bioblastigau.
- Yn ogystal â chreu a diogelu swyddi yn y Gorllewin a’r Cymoedd, bydd y gwaith arloesol hwn yn helpu i ddatblygu’r gwyddorau yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2011