Tecstio yn y Gymraeg
Mae anfon negeseuon ysgrifenedig drwy ffonau symudol a chyfrifiaduron yn ddull poblogaidd iawn o gyfathrebu, ar ffurf neges destun, Twitter neu Facebook.
Brynhawn Gwener, 10 Awst am 1 o’r gloch ar stondin Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, bydd Dr Cynog Prys o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, yn trafod canlyniadau ymchwil diweddar i arferion ieithyddol tecstwyr Cymru.
Pa mor aml fyddwch chi’n tecstio? Pa iaith fyddwch chi’n ei defnyddio? Ydych chi a’ch ffrindiau yn defnyddio iaith decstio Gymraeg arbennig er mwyn arbed amser?
Dyma rai o’r cwestiynau y bydd Dr Cynog Prys yn eu trafod, galwch heibio i glywed y canlyniadau a rhannu eich profiadau!
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012