Teithiau o gasgliadau celf a serameg Prifysgol Bangor
Bydd teithiau tywys yn cael eu cynnal o gwmpas Casgliadau Celf a Serameg Prifysgol Bangor yn mis Chwefror i Ebrill. Y bwriad ydi codi ymwybyddiaeth o’r casgliadau pwysig yma, gyda’r uchafbwyntiau yn cynnwys murlun gan Edward Povey yn Neuadd Powis, celf a serameg yng Nghoridor Ystafell Cyngor y Brifysgol a chyfle i weld a dysgu am waith celf gan artistiaid enwog fel Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Peter Prendergast a Frederick William Hayes.
Bydd y daith ym mis Mawrth yn cael ei harwain gan Dr Sue Niebrzydowski a’r Athro Helen Wilcox o’r Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth ac yn cynnwys darlleniadau o farddoniaeth perthnasol i’r lluniau yn ogystal a barddoniaeth newydd.
Mae’r teithiau tywys yma yn rhan o ymgyrch ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor i gynyddu mynediad i gasgliadau amgueddfeydd y Brifysgol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl lleol ac ymwelwyr i fwynhau a dysgu o’r creiriau sydd yn cael eu harddangos.
Cynhelir y teithiau tywys o fynedfa Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor ar Sadyrnau 16 Chwefror, 23 Mawrth ac 13 Ebrill 11.00yb-12.30yp.
Os oes gennych ddiddordeb mynychu’r teithiau tywys, gofynnir i chi gadw eich lle gan mai dim ond lle i 15 person sydd ar bob taith. Gallwch wneud hyn drwy ffonio Storiel ar 01248 353368 neu e-bostio storiel@gwynedd.llyw.cymru
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2019