Teithio am ddim ar fysiau yn lansio Wythnos Hinsawdd ac ymgyrch Teithio'r Byd Prifysgol Bangor
I ddathlu Wythnos Hinsawdd ac ymgyrch Teithio'r Byd Prifysgol Bangor, mae Prifysgol Bangor wedi ymuno gyda Bysus Arriva Cymru i ddarparu cyfnod o deithio am ddim i'w champysau ac oddi yno.
Hwn yw'r tro cyntaf i Fysus Arriva Cymru ymuno gydag unrhyw sefydliad i annog staff, ac yn yr achos hwn, myfyrwyr, i ystyried dulliau teithio cynaliadwy. O Fawrth y 4ydd i'r 8fed, mae Bysus Arriva Cymru'n cynnig i staff a myfyrwyr deithio AM DDIM ar fws i safleoedd Campws y Brifysgol yn ardal Bangor - Menai ac yn Wrecsam.
Meddai Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol y Brifysgol: “Mae Arriva wedi bod yn eithriadol wrth gefnogi dyhead y Brifysgol dynnu sylw at effaith teithio mewn car ar yr hinsawdd, a chodi ymwybyddiaeth o fanteision iechyd defnyddio cludiant cyhoeddus i deithio i'r gwaith ac oddi yno, hebddynt, ni fyddai'r cyfryw fenter yn bosibl.”
Mae ymgyrch Teithio'r Byd Prifysgol Bangor yn annog y cyfan o'r 12,000 o staff a myfyrwyr i gofnodi'r pellteroedd maent yn ei gerdded, ei redeg, beicio a nofio, i mewn i gronfa ddata a fydd wedyn yn rhoi pŵer i'r Brifysgol fynd ar daith o amgylch y byd.
“Mae dechrau'r ymgyrch yn ystod Wythnos Hinsawdd yn rhoi cyfle i ni adfyfyrio ar ein defnydd o gar, ac ystyried ein hiechyd ein hunain ac iechyd ein hamgylchedd,” meddai Emma Riches, Cydlynydd Teithio'r Byd.
Dywedodd Michael Morton, rheolwr gyfarwyddwr, Bysus Arriva Cymru, “Mae newid mewn hinsawdd a'r amgylchedd yn faterion gwirioneddol bwysig, ac rydym yn falch o allu helpu i roi cychwyn ar arferion teithio iach drwy gynnig teithio am ddim i staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor o'r 4ydd hyd at yr 8fed o Fawrth.
“Wrth deithio i gampysau ac oddi yno, dangoswch eich tocyn Prifysgol i'r gyrrwr a mwynhewch y daith!”
Cynhelir Wythnos Hinsawdd hyd at y 10fed o Fawrth, ac mae Teithio'r Byd yn parhau am hanner can niwrnod wedyn, pryd y gobeithir y bydd ymdrechion staff a myfyrwyr wedi rhoi pŵer i'r Brifysgol fynd ar daith o amgylch y byd gan ddefnyddio pŵer pobl di-garbon
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2013