Terminolegwyr Bangor yn Helpu Prifysgolion De Affrica
Mae terminolegwyr o Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor wedi bod yn cynghori staff ym Mhrifysgol De Affrica, un o’r sefydliadau addysg uwch mwyaf yn y byd, ynglŷn â sut i wella eu gwasanaeth termau amlieithog i staff a myfyrwyr.
Treuliodd Delyth Prys a Tegau Andrews wythnos yn Pretoria, De Affrica, yn dilyn gwahoddiad gan Academi Ieithoedd Affrica a Gwyddoniaeth yng Ngholeg Astudiaethau Ôl-radd Prifysgol De Affrica (UNISA).
Mae UNISA yn darparu dysgu o bell i tua 300,000 myfyriwr. Daw llawer ohonynt o gefndiroedd gwledig a/neu ddifreintiedig ac ni fyddant fel arall yn gallu fforddio addysg prifysgol. Saesneg yw prif iaith cyfrwng y dysgu ar hyn o bryd, ond dengys astudiaethau diweddar mai ail neu drydedd iaith yw hon i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr. Felly, fe ymdrechir nawr i wella dysgu ac addysgu trwy gyflwyno deunyddiau astudio a chefnogi digonol o ansawdd uchel ym mamieithoedd y myfyrwyr. Ceir 11 iaith swyddogol yn Ne Affrica, a gan mai dim ond 9.6% o’r boblogaeth sydd â Saesneg yn famiaith, mae hyn yn dipyn o her.
Mae uned gyfieithu UNISA yn fawr ac yn egnïol, gyda 40 cyfieithydd yn ymdrin, hyd yn hyn, â phedair o ieithoedd swyddogol mwyaf De Affrica. Maent eisoes wedi bod yn weithgar o safbwynt terminoleg, a chanddynt gasgliadau helaeth o restrau termau mewn nifer o ieithoedd.
Dywedodd Delyth Prys, pennaeth Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr y Brifysgol, sydd â phrofiad eang o ddatblygu a safoni termau:
“Mae eu hymrwymiad i ddatblygu adnoddau amlieithog i’w staff a’u myfyrwyr, a’r gwaith sydd eisoes wedi ei gyflawni, wedi gwneud cryn argraff arnom ni. Ein cyfraniad ni oedd ystyried systemau i hwyluso gweithio ar y cyd, safoni a lledaenu terminoleg amlieithog, a'u helpu i symud i ffwrdd o gyhoeddi ar bapur a mynd i gyfeiriad dulliau digidol cyflymach a mwy economaidd. Felly, roedd ein system datblygu termau ni, Maes T, yn ddelfrydol ar gyfer eu gofynion nhw gan ei bod yn rhedeg ar weinydd ac yn galluogi tîm gwasgaredig o derminolegwyr, ieithwyr ac arbenigwyr pwnc i ddatblygu termau. Rydym ni nawr yn bwriadu rhannu'r system gydag UNISA a’i datblygu yn bellach gyda chymorth eu datblygwyr meddalwedd nhw. Byddwn ni hefyd yn rhannu’r cod sydd y tu ôl i Borth Termau Cenedlaethol Cymru gyda nhw, a bydd hyn yn eu galluogi i gyhoeddi termau ar-lein gydag un clic botwm, ar ôl i'r termau gael eu prosesu ym Maes T.”
Dywedodd Dr Tegau Andrews, Terminolegydd Addysg Uwch y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd hefyd yn gweithio yn yr Uned Technolegau Iaith:
“Roeddwn ni’n synnu pa mor debyg oedd y materion oedd yn codi wrth ddelio â thermau academaidd yng Nghymru ac yn Ne Affrica, er gwaetha’r gwahaniaethau yn ein sefyllfaoedd ieithyddol. Yn y ddau achos, academyddion yw ein harbenigwyr pwnc, ac mae eu cyfraniad at y broses safoni yn holl bwysig. Yng Nghymru, hwyluswyd cydweithio ar draws prifysgolion Cymru gan ddyfodiad y Coleg Cymraeg, ac mae'r gwaith terminolegol wedi elwa o fedru rhannu arbenigedd ar draws sefydliadau, a gallu gosod adnoddau ar Y Porth, sy'n rhoi mynediad at holl ddeunyddiau'r Coleg. Roedd yn galonogol gweld y cydweithio sy’n dechrau digwydd rhwng prifysgolion De Affrica, yn arbennig gan fod cynrychiolwyr o sefydliadau ar draws De Affrica wedi teithio i fod yn bresennol yn ein gweithdai.”
Wrth groesawu eu hymwelwyr o Gymru i Dde Affrica, dywedodd yr Athro Lesiba Teffo, Cyfarwyddwr Gweithredol Ysgol Sefydliadau Ymchwil Trawsddisgyblaethol, Coleg Astudiaethau Ôl-radd UNISA:
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr ysgogiad newydd hwn i safoni a lledaenu terminoleg amlieithog academaidd yn cael effaith gadarnhaol ar ehangu mynediad i addysg uwch ai rai o’n myfyrwyr mwyaf difreintiedig. Mae’n dda clywed am brofiadau addysg uwch yng Nghymru, a gallwn ddysgu llawer oddi wrth ein gilydd.”
Ychwanegodd yr Athro Laurette Pretorius, athro cyfrifiadureg ac ymchwil yn UNISA a oedd yn gyfrifol am gynnal yr ymweliad:
“Rydym ni’n gobeithio mai dim ond megis dechrau y mae’r cydweithio gyda Phrifysgol Bangor, ac y bydd yn berthynas hir a chynhyrchiol. Hoffem ni nawr drefnu ymweliadau pellach rhwng ein dau sefydliad, ac rydyn ni’n gweithio gyda'n gilydd ar gais grant a fydd yn caniatáu i ni ddatblygu partneriaeth gref.”
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2014