Tesni Evans yn cyflawni camp ryfeddol drwy ennill y National Championships
Cyflawnodd Tesni Evans, deiliad un o fwrsariaethau Athletwyr Lleol Prifysgol Bangor, gamp ryfeddol ddydd Sul (18 Chwefror) pan enillodd y ferch o’r Rhyl gystadleuaeth sboncen y National Championships ym Manceinion. Tesni yw’r ferch gyntaf o Gymru i lwyddo yn y fath fodd, ffaith sy’n cadarnhau ei safle fel y Gymraes fwyaf llwyddiannus yn y gamp.
Cyrhaeddodd Evans, sy’n rhif 1 yng Nhymru a rhif 12 yn y byd, y rownd derfynol mewn tipyn o steil, gan gofnodi buddugoliaeth ddigamsyniol dros gyn rhif 1 y byd, Laura Massaro. Ei gwrthwynebydd yn y rownd derfynol oedd cyn-enillydd y National Championships, Alison Waters.
Er bod y gystadleuaeth yn cael ei gweinyddu gan gorff y gamp yn Lloegr, England Wales, mae’n agored i chwaraewyr o wledydd y DG. Serch hyn, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae chwaraewyr o Loegr wedi hawlio llawer iawn o safleoedd y rowndiau olaf yng nghategorïau’r Dynion a’r Merched. Llwyddodd Evans i dorri ar y patrwm hwnnw gyda pherfformiad arbennig yn y rownd derfynol, gan chwarae gêm ddisgybledig oedd â fflachiadau creadigol gwefreiddiol; cyfuniad a olygodd ei bod wedi llwyr reoli llif y chwarae.
Gan ei llongyfarch ar ei buddugoliaeth, meddai Cyfarwyddwr Chwaraeon a Gwasanaethau Masnachol Prifysgol Bangor, Richard Bennett:
“Mae’n glamp o ganlyniad i Tesni ac rwy’n falch fod y cyfleusterau yma ym Mhrifysgol Bangor wedi chwarae rhan werthfawr yn ei rhaglen hyfforddi. Yn gartref i Ganolfan Sboncen Genedlaethol Gogledd Cymru, Canolfan Brailsford yw’r unig le yn Ngogledd Cymru sy’n gallu darparu lleoliad ar gyfer sboncen broffesiynol – sy’n defnyddio uchder is ar gyfer y ‘tin’ na’r hyn sy’n cael ei ddefnyddio wrth chwarae’n hamddenol. Yn ogystal â llwyddo ar y cwrt sboncen, mae Tesni wedi bod yn llysgennad ardderchog dros y gamp yma ym Mangor, drwy fod yn ysbrydoliaeth ar gyfer clwb ein myfyrwyr a thrwy gyflwyno gwobrau yn rheolaidd mewn digwyddiadau lleol a chenedlaethol sy’n cael eu cynnal yma.”
Yn flynyddol, mae Canolfan Brailsford yn cefnogi athletwyr lleol drwy gynnig bwrsariaethau. Yn ogystal â Tesni, eleni gwobrwywyd Maisie Potter o Fangor, eirafyrddiwr a fu bron a chael ei dewis i gynrychioli Prydain yng ngemau Olympaidd y Gaeaf 2018, ond a fethodd oherwydd anaf munud-olaf; David Parry o Gaernarfon, sydd yn chwaraewr tennis rhif 1 yng Nghymru a Connor Burns o Fangor, bocsiwr sydd yn cynrychioli Prydain.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2018