Teyrnged i Mair Morris
Gyda thristwch mawr clywsom am farwolaeth Mair Morris, un o fyfyrwyr yr MA Astudiaethau Merched. Roedd Mair yn fyfyrwraig ddeallus, frwdfrydig a thrylwyr ac yn gefnogol a charedig i'w chyd-fyfyrwyr a staff Ysgol Dysgu Gydol Oes. Yr oedd Mair yn prysur ysgrifennu ei thraethawd hir ar Margaret, Arglwyddes Rhondda pan waethygodd ei salwch. Bydd yna golled fawr ar ei hôl ac ar ôl ei chyfraniad i'n dealltwriaeth o fywyd merched yng Nghymru.
Dymunwn fel Ysgol a chyfeillion datgan ein cydymdeimlad i'w annwyl gwr, Bob ac i'r teulu cyfan yn eu profedigaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2014