Teyrnged i Max yng Nghymru: Hebrides Ensemble, Psappha, Pedwarawd Benyounes ac Ensemble Cymru
Transfigured Night ar 12fed o Dachwedd yn y Stiwdio, Canolfan Pontio Bangor, fydd rhan ganolig digwyddiad unigryw sy’n dod ag ensemblau nodweddiadol cerddoriaeth siambr a chyfoes Prydain at ei gilydd - Psappha (Manceinion), Hebrides Ensemble (Yr Alban), Pedwarawd Benyounes (Llundain) ac Ensemble Cymru (Cymru) ar gyfer dathliad hwyliog o gerddoriaeth newydd fel teyrnged i’r diweddar Sir Peter Maxwell Davies.
Bydd ‘Teyrnged i Max yng Nghymru’ yn cynnwys première byd o waith Simon Bainbridge Quartet No 2 mewn cyngerdd preliwd arbennig am 6.45pm. Bydd rhaglen yr Hebrides Ensemble a Psappha Transfigured Night yn dilyn wedyn am 7.30pm ac yn dechrau gyda The Last Island Syr Peter Maxwell Davies, ddaw yn fyw am y tro cyntaf mewn ffilm hardd newydd am yr Holms of Ire, un o ynysoedd Orkney oedd yn ysbrydoliaeth iddo drwy gydol ei fywyd. Bydd y darn yma’n cael ei ddilyn gan première byd gwaith syfrdanol Panopticon David Fennessy. Bydd ail ran y rhaglen yn cynnwys y chwechawd bendigedig i linynnau Transfigured Night ac yn gorffen gyda Farwell to Stromness Syr Peter Maxwell Davies mewn trefniant newydd gan David Horne i chwech o linynnau a cimbalom.
Bydd y noson yn cloi gyda digwyddiad am ddim yn dilyn y gyngerdd yn Bar Ffynnon, Pontio am 9.15pm ble bydd aelodau o grwp cerddoriaeth siambr gogledd Cymru Ensemble Cymru a Phedwarawd Benyounes yn perfformio cerddoriaeth wedi ei ysgrifennu’n arbennig gan gyfansoddwyr ifanc o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor.
Teyrnged i Max: Psappha, The Hebrides Ensemble, Pedwarawd Benyounes ac Ensemble Cymru
Nos Sadwrn, 12 Tachwedd, o 6.45pm
Studio, Canolfan Pontio Bangor
£12/£10/£5 myfyrwyr ac o dan 18
Tocynnau: 01248 38 28 28 neu www.pontio.co.uk
Am ragor o wybodaeth ewch i:
www.ensemble.cymru
www.hebridesensemble.com
www.psappha.com
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2016