“The Creativity of Commercial Law”: Darlith gyhoeddus gan Syr Roy Goode
“The Creativity of Commercial Law”: Darlith gyhoeddus gan Syr Roy Goode
Dydd Iau, 29 Ionawr 2015
6.30pm
Neuadd Powis, Prifysgol Bangor (Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd LL57 2DG)
I ddathlu ei dengmlwyddiant, bydd Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor yn cynnal darlith gyhoeddus o bwys gan yr Athro Syr Roy Goode QC ar y pwnc creadigrwydd cyfraith fasnachol.
Mae cyfraith fasnachol yn bennaf yn dangos sut y mae cyfraith fasnachol wedi gorfod datblygu'n barhaus i ddefnyddio dulliau newydd a gynlluniwyd gan bobl busnes llawn dychymyg a'u cyfreithwyr i hwyluso masnach ddomestig ac ar draws ffiniau a'i gwneud yn fwy effeithlon. Fel rhan o arolwg amrywiol, bydd yr Athro Goode yn edrych ar ddatblygiad dulliau trafod a dogfennau teitlau; newid o warantau buddsoddi ardystiedig i warantau buddsoddi difaterol a chyfryngol; a phroblemau trafodion ar draws ffiniau a'u datrys trwy ddulliau rhyngwladol, megis y confensiwn ar gontractau ar gyfer gwerthu nwyddau'n rhyngwladol. Bydd y ddarlith yn cloi gydag adroddiad byr am gonfensiwn llwyddiannus iawn Cape Town ar fuddiannau rhyngwladol mewn offer symudol, a'r protocolau cysylltiedig fel enghraifft o sut y gellir goresgyn problemau.
I gofrestru: cysylltwch ag anwen.evans@bangor.ac.uk gan roi eich enw, swydd a sefydliad.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014