‘The Future of Public Law in England and Wales’ – Darlith gan Ms. Sarah Nason
Mae'n bleser gan Ysgol y Gyfraith Bangor gyhoeddi y bydd Ms Sarah Nason, aelod o Grŵp Cyfraith Gyhoeddus yr Ysgol, yn rhoi sgwrs ar ei hymchwil i Adolygiadau Barnwrol yn y Deyrnas Unedig ddydd Mercher, 12 Hydref 2011.
Darlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor yw Ms Sarah Nason. Graddiodd o Brifysgol Caergrawnt gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gyfraith ac yn ddiweddarach dechreuodd hyfforddi fel twrnai gyda chwmni o gyfreithwyr yn Llundain, Slaughter and May. Penderfynodd Ms Nason ddychwelyd i academia i ddilyn ei diddordebau yn y gyfraith gyhoeddus a mynediad at faterion cyfiawnder. Ochr yn ochr â’r ymchwil a gyllidir ganddi i ddyfodol adolygiadau barnwrol yng Nghymru a Lloegr, mae Ms.Nason yn astudio ar gyfer doethuriaeth yn University College Llundain ac mae’n ysgrifennu ei thraethawd ymchwil ar hyn o bryd ar athroniaeth y gyfraith gyhoeddus a dulliau newydd o sicrhau rhesymoldeb cyfreithiol.
Gwelir isod ddisgrifiad cyffredinol o thema’r ddarlith sy’n dwyn y teitl ‘The Future of Public Law in England and Wales’. Cynhelir y ddarlith yn ystafell A1.01, Adeilad Alun, am 2.00pm ddydd Mercher 12 Hydref 2011.
‘The Future of Public Law in England and Wales’.
Er bod llinach hir ac urddasol i’r cyfiawnhad barnwrol o reol y gyfraith, yn hanesyddol nid yw cyfraith gyffredin Cymru a Lloegr wedi gwahaniaethu rhwng cyfraith gyhoeddus a chyfraith breifat. Ond newidiodd y sefyllfa yn 1976 pan argymhellodd Comisiwn y Gyfraith drefn adolygu barnwrol newydd ar gyfer sicrhau rhwymediau yn erbyn cyrff cyhoeddus. Polisi a phragmatiaeth a roes fod i’r drefn newydd, nid oedd fawr ddim sôn am y cyfansoddiad nac am gyfreithlondeb yn y trafodaethau a esgorodd arni. Y rheswm pwysicaf dros orfod ffurfio awdurdodaeth cyfraith gyhoeddus unigryw oedd bod angen datrys ar frys doreth o achosion gan fewnfudwyr a fynnodd herio gorchmynion i adael y wlad.
Yn 1980 trwy gyfrwng dyfarniad gan Dŷ’r Arglwyddi cadarnhawyd y ffaith bod y drefn adolygu barnwrol yn un “ddethol" iawn, ac na fyddai'n bosib dwyn achos cyfreithiol yn erbyn corff cyhoeddus ac eithrio trwy wneud cais i griw bach o farnwyr pwysig oedd yn gweithio yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd. Yn 2000 ailenwyd awdurdodaeth y barnwyr hynny'n Llys Gweinyddol.
Erbyn canol y 90au roedd academyddion o Brifysgol Essex wedi datgelu anghydbwysedd daearyddol difrifol yn yr achosion cyfreithiol lle cynhaliwyd adolygiad barnwrol. Cyfran fechan iawn o’r achosion oedd wedi dod o ardaloedd helaeth iawn o Loegr; cafwyd llai na deg achos o Gymru gyfan. Mae’n amlwg bod hwn yn fater o fynediad cyfartal at gyfiawnder sy’n cyffwrdd â chyfreithlondeb ein cyfraith gyhoeddus: yn fyr, os rhwystrir poblogaethau cyfan mewn rhai rhanbarthau rhag defnyddio’r system oherwydd eu lleoliad, sut y gellid ystyried y cyfryw system yn addas at bwrpas hyrwyddo rheol y gyfraith yn ein democratiaeth fodern. Mae hyn wrth gwrs yn cyd-fynd â symudiad y Llywodraeth glymblaid bresennol tuag at fwy o ddatganoli a lleoleiddio pŵer y llywodraeth.
Roedd rhanbartholi’r Llys Gweinyddol ar yr agenda polisi ers peth amser, ond dim ond pan ddechreuodd y Llys Gweinyddol yn Llundain wegian o dan faich cynyddol achosion gan geiswyr lloches a mewnfudwyr, y gweithredwyd ar y mater, o dan gwmwl o déjà vu. Agorodd pedair Canolfan Llys Gweinyddol newydd yn 2009 yn Birmingham, Caerdydd, Leeds a Manceinion. Gallai goblygiadau ac effeithiau tymor hir rhanbartholi ar fynediad at gyfiawnder a'r gwasanaethau cyfreithiol sydd ar gael, ar y proffesiynau ac ar ansawdd cyffredinol ein cyfraith gyhoeddus fod yn bellgyrhaeddol.
Bellach mae Ms.Sarah Nason, yn Ysgol y Gyfraith Bangor, wedi ymgymryd â’r cyfrifoldeb dros asesu effaith y diwygiadau hynny, gyda chymorth Prifysgol Essex a’r Project Cyfraith Gyhoeddus. Mae’r ymchwil bresennol, dan nawdd Ymddiriedolaeth Nuffield a’r Academi Brydeinig, ac wedi ei gefnogi gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, wedi dechrau asesu effaith rhanbartholi ar fynediad at gyfiawnder, y farchnad ar gyfer gwasanaethau cyfreithiol, ac ansawdd y gyfraith gyhoeddus. Bydd darlith Ms.Sarah Nason yn adrodd ar ganfyddiadau cychwynnol yr ymchwil ac yn archwilio nifer o faterion cysylltiedig yn effeithio ar ddyfodol y gyfraith gyhoeddus Cymru a Lloegr. Trefnwyd y sgwrs gan Grŵp Cyfraith Gyhoeddus y Deyrnas Unedig yn yr Ysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2011