The Other Room, theatr dafarn gyntaf Caerdydd, yn ymweld â Pontio
Bydd The Other Room – theatr dafarn Caerdydd – yn dod a'r triawd o ddramâu dystopaidd sy’n cael eu cynhyrchu ganddi, sef THE VIOLENCE SERIES, i Theatr Stwidio Pontio rhwng Dydd Mercher 12 Chwefror a Dydd Gwener 14 Chwefror ar y daith gyntaf erioed i’r theatr ymgymryd â hi.
Bydd The Other Room yn tynnu tair drama newydd sbon allan o’u theatr fechan ac yn eu cyflwyno fel antholeg fyw ymdrochol ar lwyfannau ledled Cymru ac yn Llundain, gan roi cyfle i gynulleidfaoedd fwynhau’r gyfres i’r eithaf a chael profiad o’r tri chynhyrchiad ar y cyd.
Tair o ddramâu dystopaidd yw THE VIOLENCE SERIES – gweithiau a ysgrifennwyd gan Matthew Bulgo, Tess Berry-Hart a Mari Izzard ac a osodwyd mewn byd sy’n gyfarwydd ond ar dân. Wedi eu comisiynu a’u cynhyrchu gan The Other Room ar gyfer Tymor yr Hydref 2019, mae pob drama’n archwilio’r themâu sy’n ein rhannu ni ac yn gofyn cwestiynau dwfn ynghylch ochr dywyll y ddynoliaeth. Pa bryd mae gweithred yn troi’n dreisiol? A ddylen ni wir ymladd tân â thân? A pha mor bell fyddech chi’n fodlon mynd er mwyn ei osgoi?
Drama ias a chyffro sinigaidd yw American Nightmare gan Matthew Bulgo; mae’n archwilio’r gagendor dwfn rhwng y cyfoethog a’r tlawd, a hynny yn erbyn cefnlen o lymder yn America yn y dyfodol gweddol agos.
Mae The Story, sy’n nodi ymddangosiad cyntaf Tess Berry-Hart yng Nghymru, yn archwiliad anesmwyth o gondemniad moesol a chyfrifoldeb personol sy’n cadw’r gynulleidfa ar flaenau eu seddi hyd y diwedd un.
Wedi’i hysbrydoli gan waith Tess gyda ffoaduriaid o garchardai Assad a charchardai Libya, mae’n dilyn stori gwirfoddolwr sy’n cyrraedd yn ôl o weithio mewn gwersyll i ffoaduriaid i ddarganfod ei bod bellach yn “elyn y bobl”. Mae The Story yn cwestiynu iaith ‘aralloli’ a’r straeon rydym yn eu hadrodd wrthym ein hunain i gyfiawnhau trais.
Ym mhob perfformiad, dilynir The Story gan Hela, hanes cythryblus am gyfrinachau tywyll teuluol ac ymdrech ddiflino am gyfiawnder, a ysgrifennwyd gan Mari Izzard, enillydd Gwobr Violet Burns i Ddramodwyr; mae’r testun yn cynnwys testun Cymraeg a Saesneg, a’r cyfan wedi’i blethu ynghyd dan gyfarwyddyd Cyfarwyddwr Artistig The Other Room, Dan Jones.
Wedi’i gosod mewn Cymru ddystopaidd, lle mae cyfiawnder – fel popeth arall – yn cael ei benderfynu gan algorithm, mae Hela yn gofyn cwestiynau treiddgar megis a allwn roi ein ffydd yn ein hobsesiwn gyda data, a pha mor bell rydyn ni’n fodlon mynd er mwyn sicrhau cyfiawnder.
Cynhyrchir Hela gan The Other Room mewn cydweithrediad â Theatr Genedlaethol Cymru.
Dywed Dan Jones, Cyfarwyddwr Artistig The Other Room:
“Mae’n bosib y byddai rhai pobl yn synnu o glywed bod pob aelod o dîm The Other Room yn eu hugeiniau. Yr hyn rwy’n ei hoffi ynghylch ein tîm ifanc yw ein bod i gyd yn teimlo rhyw awydd diwyro i herio disgwyliadau ar bob cam – tuedd a osodwyd gan y cewri rydym yn sefyll ar eu hysgwyddau.
Gallai rhai pobl ystyried bod teithio tymor cyfan yn syniad lloerig – ac efallai eu bod nhw’n iawn – ond i mi mae’n teimlo fel datblygiad naturiol o’n gwaith. Byth ers i The Other Room gael ei sefydlu, rydym bob amser wedi pecynnu ein gwaith dan thema, cwestiwn neu syniad penodol. Rydw i wedi dechrau meddwl amdano fel ein cyfres antholeg fyw ni’n hunain, ac roedd hynny’n ysbrydoliaeth fawr i ni wrth gynllunio The Violence Series.
Felly, os ydyn ni’n creu antholeg o ddramâu, pam na allwn ni roi cyfle i weddill Cymru hefyd fwynhau’r gyfres. Mae rhannu ein gwaith gyda gweddill Cymru yn rhywbeth nad ydyn ni wedi’i wneud erioed o’r blaen, ac rwy’n hynod falch o’r holl waith caled a gyflawnwyd er mwyn gwireddu’r syniad. Mae’r un peth yn wir am Loegr. O un brifddinas i’r llall, rydym wrth ein bodd yn cael cyfle o’r diwedd i rannu tymor cyfan o waith gyda’n cefnogwyr lluosog yn Llundain.
Rydyn ni i gyd yn teimlo’r tensiwn yn yr aer a thrwy ein sgriniau. Gallwn achosi’r fath boen i’n gilydd – ac nid mewn modd corfforol yn unig; nid cyflafan yw The Violence Series o bell ffordd. Mae ein trais yn gynnil, yn ddichellgar ac weithiau’n hurt bost. Mae’r triawd hwn o weithiau ias a chyffro yn arddangos y gorau sydd gan Gymru i’w gynnig, gyda rhai o’n hartistiaid mwyaf adnabyddus yn gweithio’n agos gyda thalentau newydd o Gymru a rhai sydd wedi’u lleoli yma. Rydym wrth ein bodd yn cael dod â The Violence Series i Fangor ac yn edrych ymlaen yn fawr at rannu ein gwaith gyda chi.”
The Violence Series
Theatr Stiwdio Pontio, Bangor
Mercher 12 Chwefror, 7pm - American Nightmare
Iau 13 Chwefror, 7pm - The Story + Hela (Double Bill)
Gwener 14 Chwefror, 2.30pm The Story + Hela (Double Bill)
Gwener 14 Chwefror, 7pm - American Nightmare
Tocynnau £12/£10 gostyngiadau neu dewch i weld unrhyw ddau berfformiad am £20/£16 gostyngiadau.
Tocynnau o www.pontio.co.uk neu 01248 38 28 28 neu galwch i mewn i'r Swyddfa Docynnau.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2020