Theori Cerddoriaeth Ganoloesol mewn Cyd-destun, Gorffennaf 2012
Wedi blynyddoedd o ddiffyg sylw, mae astudiaeth ar gerddoriaeth ganoloesol yn dangos arwyddion o adfywiad pwysig. Yn eironig, statws ymylol y maes sydd wedi ail-ennyn y diddordeb hwn; wrth i’r astudiaeth ar theori ganoloesol symud o ganol cerddoreg tuag at yr ymylon, daeth ysgolheigion yn fwyfwy ymwybodol o’r cysylltiad agos sydd rhyngddi a disgyblaethau a disgyrsiau eraill, ac a dulliau eraill o gyfleu gwybodaeth mewn diwylliant canoloesol.
Mae dull newydd ac eang o astudio’r maes yn dioddef, am fod arbenigwyr wedi’u rhannu rhwng gwahanol ddisgyblaethau, a heb isadeiledd ymchwil cyffredin rhyngddynt. Yn 2011, cymerodd Dr Christian Thomas Leitmeir a Ms Elina Hamilton yr awenau mewn ymgais i ddatrys y broblem hon, a hynny trwy gynnal gweithdy anffurfiol ym Mangor (Gorffennaf 2011). Gan adeiladu ar lwyddiant y cyfarfod hwn, penderfynwyd y gellid ail-gynnal y gweithdy hwn ar raddfa ryngwladol yn 2012. Daeth hyn yn bosibl trwy rodd hael gan y Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (Aberystwyth–Bangor).
Roedd yn bleser gan y trefnwyr groesawu grŵp bach dethol o arbenigwyr ym maes theori cerddoriaeth ganoloesol, gan gynrychioli gwahanol oedrannau, gwledydd a gwahanol feysydd o arbenigedd.
Wedi dau ddiwrnod dwys o bapurau a thrafodaethau ysgogol, daeth y gweithdy i ben yng Nghastell Conwy ar wahoddiad gan Faer a Chynghorwyr Conwy.
Cyfranwyr a phynciau:
Yr Athro Elżbieta Witkowska-Zaremba (Warsaw, Academi’r Gwyddorau)
Musical past from the perspective of medieval theorists
Dr Christian Thomas Leitmeir (Prifysgol Bangor)
Musical examples in theoretical discourse: Function, transmission, problems
Yr Athro Calvin Bower (Prifysgol Chicago / München, Academi’r Gwyddorau)
Uses of Carolingian Theory in Analysis of Chant
Ms Elina Hamilton (Prifysgol Bangor)
The transmission and intellectual milieu of 14th-century English treatises
Yr Athro Gabriela Currie (Minneapolis, Prifysgol Minnesota)
Music-theoretical lore at the crossroads of Mediterranean cultures
Yr Athro Andrew Hicks (Ithaca, Prifysgol Cornell)
The reception of late-ancient Greek harmonic theory in Arabo-Persian philosophical contexts
Yr Athro Charles Burnett (Llundain, Sefydliad Warburg)
Music Theory, Sympathetic Vibration and Cosmology
Dr Michael Bernhard (München, Academi’r Gwyddorau, Bafaria, Cyfarwyddwr Lexicon musicum latinum):
Ground-work for future research in music theory
Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2012