‘This Is Who I Am’ – Mynediad Am Ddim
Mae Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor yn falch o gynnal perfformiad gan gynyrchiadau Ice and Fire, sy'n rhan o'r sefydliad Actors for Human Rights. Maent yn datblygu darnau theatr gwreiddiol wedi'u seilio ar dystiolaethau hawliau dynol a thystiolaeth ddogfennol ac mae'r bobl a'r cymunedau y maent yn gweithio'n agos â hwy yn dylanwadu ar eu gwaith.
Cynhelir y perfformiad sydd yn rhad ac am ddim i’w wylio, Ddydd Gwener 13 Mawrth 2020 am 3.00-4.30 pm yn Ystafell PL2 Pontio, Prifysgol Bangor.
Sefydlwyd y sefydliad Actors for Human Rights UK yn 2006 ar ôl cael eu hysbrydoli gan rwydwaith o Awstralia o’r enw Action for Refugees, a sefydlwyd yn 2001 mewn ymateb i'r ffordd ddadleuol roedd llywodraeth Awstralia'n trin ceiswyr lloches.
Mae 'This Is Who I Am' yn ddarlleniad gan actorion a pherfformwyr o ddisgrifiadau uniongyrchol o brofiadau pobl LGBTQIA + sy'n ceisio lloches, a phrosesau'r Deyrnas Unedig o ymwneud â rhai'n ceisio lloches.
Fel yr esboniodd Dr Corinna Patterson, Dalithydd Cymdeithaseg a Swyddog Amrywiaeth yr Ysgol:
“Mae 'This Is Who I Am' yn rhoi sylw i faterion y mae'r Ysgol yn ymdrin â hwy yn rhai o'r modiwlau a gynigir yn yr ysgol (Hil, Democratiaeth ac Ideoleg Wleidyddol, Hunaniaeth ac Amrywiaeth, Dadleuon Cymdeithasol a Gwleidyddol Cyfoes, Materion Cydraddoldeb a Phersbectifau Rhywedd, i grybwyll ond ychydig), a hefyd o fewn ein uchelgais ehangach i roi sylw i faterion cydraddoldeb a chynrychiolaeth yn y gweithle.
Rydym fel Ysgol hefyd yn falch o wneud y perfformiad hwn yn agored i'r cyhoedd yn rhad ac am ddim.”
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2020