Thomas Parry a Choleg Bangor
I ddathlu hanner canmlwyddiant cyhoeddi’r Oxford Book of Welsh Verse, a olygwyd gan Syr Thomas Parry, bydd yr Athro Derec Llwyd Morgan yn traddodi darlith, ‘Thomas Parry a Choleg Bangor’, nos Fercher, 17 Hydref am 5.30 ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau.
Hon yw’r ail mewn cyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor. Mae’n agored i’r cyhoedd ac ni chodir tâl mynediad. Mae’r Athro Derec Llwyd Morgan ar hyn o bryd yn gweithio ar lyfr ar yr Athro Thomas Parry ac mae’n defnyddio dogfennau a llythyrau gan Thomas Parry, yn ogystal â deunydd yn ymwneud ag ef, sydd ar gael yn Archifau’r Brifysgol.
Mae gan yr Athro Derec Llwyd Morgan sawl peth yn gyffredin â’r Athro Thomas Parry o ran hynt eu gyrfa. Penodwyd y ddau yn ddarlithwyr yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, a daeth y ddau’n ddiweddarach yn Brifathrawon Prifysgol Cymru, Aberystwyth (fel yr oedd bryd hynny).
Daeth yr Athro Thomas Parry hefyd yn Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac fe’i penodwyd yn Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru, cyn ei benodi’n Brifathro Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Gwnaeth gyfraniad sylweddol iawn ym maes astudio llenyddiaeth Gymraeg. Yn ogystal â’r Oxford Book of Welsh Verse, roedd ei gyfraniadau mawr eraill yn cynnwys golygu gweithiau Dafydd ap Gwilym a llunio’r gwaith ysgolheigaidd cyntaf ar hanes llenyddiaeth Gymraeg yn gyffredinol, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900. Cyfieithwyd y gwaith hwnnw i’r Saesneg a’i gyhoeddi yn 1955 fel A History of Welsh Literature.
Meddai’r Athro Derec Llwyd Morgan, wrth ysgrifennu am Syr Thomas Parry yn y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein: “Roedd yn dywysog o ysgolhaig na wnaeth erioed esgeuluso’r bobl gyffredin, eu cyfranwyr gorau na’u sefydliadau anhepgor.”
Dylai’r ddarlith roi rhagflas o’r hyn sydd i ddod yn llyfr newydd yr Athro Llwyd Morgan.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2012