Tîm Bangor yw'r cyntaf erioed i gynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Ffug Lys Telders
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi llwyddo i fod y tîm cyntaf erioed i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth ffug lys sy'n adnabyddus ledled y byd.
Bydd myfyrwyr y Gyfraith, Andrew Jones, Damian Etone, Cathal McCabe ac Adam Gulliver yn teithio i'r Iseldiroedd i gystadlu yn Ffug Lys Barn Rhyngwladol Telders. Hon yw'r gystadleuaeth enwocaf o'i bath yn Ewrop ac fe'i cynhelir yn y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol yn Yr Hâg.
Mae Ffug Lys Barn Rhyngwladol Telders yn achlysur addysgol lle mae myfyrwyr o bob rhan o Ewrop yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Rhaid i bob tîm gynrychioli ochrau'r ceisydd a'r atebydd mewn achos cyfreithiol ffug dan amodau sy'n debyg i rai achos llys go iawn gerbron Llys y Byd.
Mae'r tîm yn awr yn tynnu at derfyn eu paratoadau ac wedi cael hyfforddiant gan Dr Evelyne Schmid a Ms Yvonne McDermott, darlithwyr yn Y Gyfraith. Ddydd Mercher, 17 Ebrill, byddant yn rhoi cyflwyniad olaf o'u dadleuon i gynulleidfa o'u cyd-fyfyrwyr, ffrindiau a chefnogwyr cyn y rowndiau cynderfynol a therfynol, a gynhelir rhwng 25 a 27 Ebrill.
Fel rhan o'u paratoadau terfynol, mae Tîm Telders Bangor yn awr yn chwilio am noddwyr i'w helpu i dalu'r tâl cymryd rhan.
"Mae'n gam rhyfeddol i'r tîm fod wedi mynd cyn belled â hyn a chael cyfle i gynrychioli Cymru mewn digwyddiad mor arbennig," meddai Dr Evelyne Schmid, a fydd yn mynd gyda'r myfyrwyr i'r Iseldiroedd. "Mae'r paratoi wedi bod yn drylwyr iawn ac mae pedwar aelod y tîm yn hynod ddawnus. Yr her olaf sydd ar ôl yw cael arian nawdd. Bydd pob rhodd, waeth pa mor fychan, yn hynod bwysig i wneud y daith yma'n bosibl."
O bedwar aelod y tîm, mae tri ohonynt yn fyfyrwyr ar y rhaglen Feistr mewn Cyfraith Droseddol Ryngwladol a Chyfraith Hawliau Dynol, a gynigiwyd gyntaf ym Mangor ym Medi 2011. Mae Andrew Jones yn gweld y Gystadleuaeth Telders yn gyfle unigryw i ymarfer yr hyn y mae wedi'i ddysgu drwy gydol ei astudiaethau ac i weld y gymuned gyfreithiol ryngwladol a'i phrosesau ar waith.
Mae Cathal McCabe, a raddiodd o Ysgol y Gyfraith Bangor, yn un o'r aelodau a sefydlodd Cymdeithas Gomedi Bangor, a fydd yn cynnal noson gomedi arbennig ar 17 Ebrill i godi arian tuag at gronfa'r tîm. Ei nod yn y pen draw yw dod yn fargyfreithiwr yn arbenigo ym meysydd y gyfraith sy'n ymwneud â phobl fregus, plant yn arbennig.
Enillodd Damian Etone, o Cameroon, ysgoloriaeth Chevening hynod bwysig i gyllido ei astudiaethau ym Mangor. Ac yntau wedi tyfu i fyny yng nghanol troseddau yn erbyn hawliau dynol, ei uchelgais yw dod yn fargyfreithiwr yn arbenigo mewn cyfraith hawliau dynol a gallu helpu ei wlad enedigol.
Pedwerydd aelod Tîm Telders Bangor yw Adam Gulliver. Mae'n fyfyriwr israddedig ac yn Feistr y Ffug Lys i Gymdeithas Myfyrwyr y Gyfraith Bangor, sy'n cynnal ei chystadlaethau ffug lys blynyddol ei hun gyda chefnogaeth gan y staff academaidd. Mae'n credu bod her gorfod dysgu llawer am gyfraith ryngwladol heb unrhyw astudiaethau blaenorol ynddi yn rhywbeth sydd wedi helpu i ddatblygu ei allu i ddysgu'n annibynnol ac mae'n gobeithio ysgogi myfyrwyr eraill i gymryd rhan mewn ffug lysoedd barn.
Fe wnaeth Gwilym Owen, darlithydd yn Y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith Bangor ddweud cymaint yr oedd yn cefnogi'r tîm fel cynrychiolwyr yr Ysgol a Chymru hefyd: “Fel Cyfreithiwr Adfocad, rwy'n hynod falch o weld myfyrwyr o Fangor yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth yma. Mae eu brwdfrydedd a'u hymrwymiad yn ysbrydoliaeth enfawr i bobl ifanc yn y rhanbarth. Fe fydd ymarfer cyfreithiol yng Nghymru yn sicr o elwa o'r fath fentrau, ac fe wyf yn dymuno cefnogaeth calonnog iddynt yn eu hantur!”
I gyfrannu i Gronfa Tîm Telders Bangor, neu i gael mwy o wybodaeth am eu hachos, ewch i http://www.crowdfunder.co.uk/investment/representing-wales-in-the-telders-international-law-moot-court-1653
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2013