Tîm Codi Pwysau Olympaidd China yn mwynhau ymlacio ym mynyddoedd Gogledd Cymru
Yn ddiweddar bu Tîm Codi Pwysau Olympaidd China yn aros ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer eu gwersyll hyfforddi i baratoi ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012. Cyn gadael fe wnaethant fwynhau bore prin o ymlacio gan gael taith i weld rhai o ogoniannau cefn gwlad Cymru. Cawsant weld rhai o’r prif olygfeydd a’r hyn sydd gan yr ardal o amgylch Bangor i’w gynnig. Arhoswyd i ddechrau yng Nghastell Caernarfon, lle croesawyd y tîm gan Ddirprwy Faer y dref, Tudor Owen, ger y fynedfa i’r adeilad mawreddog. Cawsant daith dywys o amgylch y castell i ddechrau cyn cael cyfle i grwydro’r adeilad hynafol drostynt eu hunain.
Gan symud ymlaen tua’r mynyddoedd, arhosodd y Tîm i fwynhau golygfeydd o'r Wyddfa o Ben Llyn ger Penisarwaun. Yna wrth iddynt deithio gyda godre’r Wyddfa cawsant dipyn o hanes mynyddoedd Eryri. Eglurodd tywysydd lleol mai yn Eryri y bu’r dynion a goncrodd Everest gyntaf yn ymarfer a gwyliodd yr athletwyr y trên bach yn pwffian ei ffordd drwy’r cymylau i fyny’r mynydd.
“Roedd yn ddiwrnod da iawn,” meddai un o’r athletwyr Yu Tao, “Fe wnes i ei fwynhau’n fawr. Uchafbwynt y diwrnod yn sicr oedd y castell, roedd yn rhyfeddol.”
Bu’r tîm yn bwyta ym Mar Uno ar safle preswyl Ffriddoedd Prifysgol Bangor a hwyluswyd eu hamserlen hyfforddi galed gan Ganolfan Chwaraeon a Hamdden Maes Glas. Meddai Dave Jones, Rheolwr Chwaraeon a Hamdden, “Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i weld rhai o athletwyr gorau’r byd yn ymarfer. Rydym yn hynod falch bod yr Olympiaid wedi canmol cymaint ar y cyfleusterau sydd gennym ym Maes Glas!”
Llety ar gyfer digwyddiadau a gwyliau ym Mhrifysgol Bangor 01248 388088
Canolfan Chwaraeon Maes Glas 01248 382571
Bar Uno 01248 388887
Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2011