Tîm Codi Pwysau Olympaidd Tsieina yn cynnal gwersyll hyfforddi ym Mhrifysgol Bangor
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Chwaraeon a Diwylliant Prydain-Tsieina (ACSCA) mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Ffederasiwn Codi Pwysau Cymru, Cyngor Gwynedd a Chwaraeon Cymru bydd Tîm Codi Pwysau Olympaidd Tsieina yn cynnal gwersyll hyfforddi ym Mangor, hynny fel rhan o’u paratoadau ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Bydd Cymdeithas Codi Pwysau Tsieina gyda’i thîm o hyd at 48 o athletwyr, hyfforddwyr a staff yn aros ym Mangor o 4 Awst tan 10 Awst 2011.
Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Pleser mawr imi oedd clywed bod Cymdeithas Codi Pwysau Tsieina wedi dewis dod i Fangor i gynnal eu gwersyll hyfforddi. Mae hyn yn dipyn o gamp i Gymru gan fod y tîm yn un llwyddiannus iawn ac yn gobeithio cael yr un hwyl eto yng Ngemau 2012. Mae hyn yn ffrwyth partneriaeth ardderchog rhwng Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Bangor a hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd ato am eu gwaith caled. Rydyn ni’n disgwyl ymlaen at groesawu’r tîm i Gymru fis nesaf ac yn dymuno’r gorau iddyn nhw gyda’u paratoadau gan obeithio bod hyn yn ddechrau ar gyfeillgarwch hir.”
Dywedodd Dr Herman Wang, Cyfarwyddwr Cymdeithas Chwaraeon a Diwylliant Eingl-Tseiniaidd ar ran y Gymdeithas Codi Pwysau Tseiniaidd,: "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y gwersyll hyfforddi ym mis Awst ym Mangor. Mae'r holl asiantaethau allweddol yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu amgylchedd o'r radd flaenaf ar gyfer y tîm Tseiniaidd i hyfforddi yn rhan hardd hon o Gymru ar lannau’rAfon Menai ac ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y gefnogaeth mae’r ddirprwyaeth codi pwysau Tseiniaidd wedi derbyn hyd yn hyn.
"Rydym yn gobeithio, trwy’r cyfle hwn, y gallwn adeiladu perthynas dda i hyrwyddo datblygiad codi pwysau rhwng dwy wlad."
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G Hughes: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu’r tîm i Brifysgol Bangor ac yn falch iawn gyda ymateb y tîm Olympaidd Tseiniaidd, a oedd wedi cael argraff dda o’r hyn sydd gan Brifysgol Bangor i'w gynnig,". Yn ogystal â'r cyfleusterau chwaraeon a chynhadledda bydd y Tîm Codi Pwysau Tseiniaidd Olympaidd hefyd yn cael mynediad i arbenigedd ein Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, lle mae hanes hir o gynorthwyo athletwyr Olympaidd a thimau.”
Meddai Jonathan Roberts o Ffederasiwn Codi Pwysau Cymru: “Mae Ffederasiwn Codi Pwysau Cymru yn falch o groesawu’r tîm codi pwysau Olympaidd o Tsieina i Gymru. Mae gennym y fraint o gael Codwyr Pwysau mwyaf llwyddiannus yn y byd yn hyfforddi yn ein gwlad ac mae’n deyrnged briodol i Godwyr Pwysau o Gymru yn y gorffennol a chyfredol sydd wedi ennill medalau ym mhob Gemau’r Gymanwlad ers 1954. Gobeithio bydd ymweliad y codwyr pwysau o Tsieina yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o godwyr pwysau champion yng Nghymru.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards,:
"Mae'r Cyngor a'i bartneriaid wedi bod yn gweithio'n galed i ddenu athletwyr gorau i hyfforddi yn yr ardal yn y cyfnod cyn Gemau 2012. Rydym yn hynod falch fod y gwaith caled wedi talu ar ei ganfed, a bod y tîm hynod lwyddianus codi pwysau Tseiniaidd wedi cadarnhau y byddant yn defnyddio Gwynedd fel cartref dros dro cyn y Gemau.
"Byddwn yn gweithio'n galed i sicrhau y bydd yr ymweliad hwn yn ysbrydoli plant a phobl ifanc ar draws y sir i gymryd rhan mewn chwaraeon yn ogystal â chodi proffil Gwynedd a Chymru ymhlith y bobl o China."
Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2011