Tîm Gwasanaethau Eiddo a Champws Prifysgol Bangor yn ennill gwobr genedlaethol
Yn y National CDM Awards ddydd Iau 27 Hydref, a drefnwyd gan yr Association of Project Safety, enillodd tîm Gwasanaethau Eiddo a Champws Prifysgol Bangor deitl Prif Gontractor y Flwyddyn. Rhoddwyd y teitl am waith gosod a ffitio a wnaed gan y brifysgol yn adeilad Pontio ym Mangor. Rhoddwyd tîm y brifysgol ar y rhestr fer hefyd am wobr Cleient y Flwyddyn.
Mae'r gwobrau hyn, sydd bellach yn eu nawfed flwyddyn, yn dathlu, gwobrwyo a rhannu arfer dda ragorol yn sector Rheoli Risg Iechyd a Diogelwch mewn Cynllunio ac Adeiladu.
Mae gan brif gontractwyr swyddogaeth bwysig yn rheoli risgiau i iechyd a diogelwch yn ystod y cyfnod adeiladu ac felly mae'n rhaid bod ganddynt y sgiliau, y wybodaeth, y profiad a hefyd, lle bo'n berthnasol, y gallu trefniadaethol i wneud y gwaith hwn.
Wynebodd project Pontio nifer o anawsterau gydag oediadau ac ym mis Hydref 2015 daeth tîm Gwasanaethau Eiddo a Champws Prifysgol Bangor yn Brif Gontractor ar gyfer gwaith gosod a ffitio yn y rhannau hynny o'r adeilad a drosglwyddwyd i'w ofal. Roedd y project yn golygu gwaith gosod a ffitio mewn theatrau, ystafelloedd darlithio, sinema, labordai arloesi, bwytai, caffis, ceginau a barau, ynghyd â gwaith tirlunio. Yn ystod y cyfnod hwn fel Prif Gontractor roedd tîm y brifysgol yn gyfrifol am gydlynu a rhaglennu gwaith tua 40 o gontractwyr gyda dros 100 o weithwyr ar y safle bob dydd.
Ar ôl gwneud y penderfyniad i weithredu fel Prif Gontractor, roedd tîm y brifysgol dan bwysau sylweddol i gyflawni'r gwaith o fewn amserlen dynn iawn. Gydag adeilad mor gymhleth a soffistigedig roedd cydlynu contractwyr yn gwbl hanfodol i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni, gan ofalu'r un pryd y cedwid at ofynion diogelwch priodol.
Roedd yn destun balchder mawr fod y brifysgol wedi gallu agor yr adeilad eiconig hwn fesul cam, gan sicrhau safle diogel i bawb yr un pryd.
Meddai Dylan Roberts, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo a Champws:
“Mae'r brifysgol wrth ei bodd yn ennill y wobr hon ac mae'n hynod falch o lwyddiant ei thîm yn cyflawni'r project yma."
Dyddiad cyhoeddi: 11 Tachwedd 2016