Tîm Menter yr Ifanc Bangor yn derbyn Gwobr yn Llundain
Llongyfarchiadau i'r tîm o fyfyrwyr o Brifysgol Bangor, ' University of Ales' ar ennill 'Best Investment Proposal/Company Report' un o bedwar categori a wobrwywyd yn rownd derfynol yr Young Enterprise Start Up Programme yn Canary Wharf, Llundain yn ddiweddar. Dyma'r tro gyntaf i Dîm o Gymru cyrraedd y Rownd Derfynol, ac roeddynt wedi cyflawni'r holl waith ar ben eu gwaith cwrs, roedd y tîmau eraill wedi cyflawni'r gwaith fel rhan o'u gwaith cwrs.
Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr brofi sut mae creu a rhedeg busnes go iawn, a datblygu’r holl sgiliau ac arbenigedd sy’n gysylltiedig â hynny, ac fe wnaeth dros 60 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor ddangos diddordeb mewn cymryd rhan.
Mae'r tîm, sy'n cynnwys pedwar myfyriwr cwrs Meistr mewn Seicoleg Defnyddwyr a Busnes, a dau fyfyriwr israddedig o'r Ysgol Busnes, wedi bod yn cynnal cynllun 'University of Ales' dros yr ychydig fisoedd diwethaf gan weithio'n galed i ailfrandio cwrw go iawn ar gyfer y farchnad myfyrwyr. Mae'r tîm wedi gwneud ymchwil sylweddol i'r farchnad ac wedi datblygu strategaethau brandio a marchnata effeithiol i dargedu myfyrwyr ac maent wedi cael cefnogaeth CAMRA (yr ymgyrch dros gwrw go iawn). Maent yn cael y cwrw o Fragdy Conwy ac mae nifer eisoes yn stocio'r cynnyrch. Yn yr achlysur lansio a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Bar Uno, fe werthwyd y cwrw ‘Thirst Glass Honours’ i gyd mewn 3 awr.
Drwy gydol y broses mae 'University of Ales' wedi cael ei fentora gan Chris Walker, o Raglen Cefnogi Menter HEFCW, gyda chefnogaeth gan Dr James Intriligator, Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Masnacheiddio yn yr Ysgol Seicoleg a'r tîm B-Enterprising yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.
Ym Mawrth enillodd y tîm hefyd Wobr Entrepreneuraidd Santander Prifysgol Bangor a bydd hefyd yn cynrychioli Prifysgol Bangor yng nghystadleuaeth genedlaethol Santander.
Meddai Callum Jones, myfyriwr israddedig blwyddyn olaf yn yr Ysgol Busnes a Chadeirydd Bwrdd Menter yr Ifanc Gogledd Cymru, "Dwi'n hynod falch o'r tîm; nhw ydi'r tîm cyntaf erioed i gynrychioli Cymru yn rownd derfynol Prydain. Dros y misoedd diwethaf mae wedi bod yn wych gweithio gyda'r tîm a'u gwylio'n datblygu, ac rydw i'n falch iawn fy mod wedi medru gweithio gyda'r staff dan sylw i helpu i ddod â'r rhaglen Menter yr Ifanc i Brifysgol Bangor yn ystod fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol. Gobeithio y bydd llwyddiant Bangor yn annog mwy o brifysgolion ar draws Cymru i alluogi myfyrwyr i sefydlu a chynnal eu busnesau eu hunain ac fel y tîm o Fangor galluogi myfyrwyr i raddio gyda busnes llwyddiannus y gallant neidio iddo'n syth."
Mae mwy o wybodaeth am y rhaglenni Menter yr Ifanc i'w cael yma - http://www.young-enterprise.org.uk/what-we-do/higher-programmes/
Gellir blasu'r cwrw ym Mar Uno ar safle Ffriddoedd ac mae gan y cwmni dudalen Facebook hefyd. Dangoswch eich cefnogaeth drwy hoffi eu tudalen www.facebook.com/universityofales
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2013